Mae partneriaeth hynod lwyddiannus rhwng Hamdden Sir Ddinbych ac Ysgol Uwchradd Prestatyn i ddarparu cyfleusterau ffitrwydd blaenllaw yn y sector wedi chwyldroi’r ffordd y mae disgyblion yn meddwl am eu hiechyd a’u lles.
 
Bu Hamdden Sir Ddinbych yn cydweithio’n agos ag Ysgol Uwchradd Prestatyn a thîm Addysg Cyngor Sir Dinbych ar y prosiect hwn, er mwyn deall anghenion athrawon a disgyblion. Y nod oedd darparu amgylchedd ffitrwydd deinamig ac ysbrydoledig lle gall disgyblion gael profiad o gwricwlwm ehangach a mwy deniadol. Cynlluniwyd yr ystod o weithgareddau dan do cyffrous hefyd i ddarparu gwydnwch i’r ysgol drwy gydol misoedd y gaeaf.
 
Mewn ymateb i gais am ddull sy’n canolbwyntio llai ar dimau wrth ymdrin â ffitrwydd, ac un a oedd yn croesawu profiadau digidol, ail-lansiodd Hamdden Sir Ddinbych eu safle Hamdden Prestatyn fel canolfan ffitrwydd i bobl iau. Mae’r gweithgareddau arloesol sydd ar gael yn cynnwys stiwdio Prama, sef y profiad ffitrwydd digidol ‘cyntaf o’i fath yng Nghymru’ lle mae sain, goleuadau, lloriau a waliau’n ysgogi ac yn tywys defnyddwyr trwy brofiad hyfforddi unigryw; profiad Clip n’ Climb cyffrous gyda waliau dringo a bowldro newydd; ac IGames, sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau mewn cwrt sboncen digidol rhyngweithiol. Ym mis Chwefror 2026 lansiwyd estyniad pellach i’r cyfleuster, gyda champfa newydd sbon sy’n defnyddio’r offer Technogym diweddaraf.
 
Dywedodd y Pennaeth Addysg Gorfforol, Ceri Evans, “Ers ail-lansio Hamdden Prestatyn, rydym wedi gweld myfyrwyr nid yn unig yn cymryd rhan mewn chwaraeon, ond yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu lles eu hunain. Mae lefelau cyfranogi wedi cynyddu’n sylweddol a gall myfyrwyr o bob gallu a diddordeb bellach gymryd rhan mewn beth bynnag sydd o ddiddordeb iddyn nhw. Mae’r rhai nad oeddent efallai wedi mwynhau gemau tîm bellach yn ffynnu mewn heriau ffitrwydd unigol. Mae dyfodiad y cyfleusterau gwych hyn wedi cyd-fynd yn berffaith â gwyro oddi wrth ddull traddodiadol o ymarfer corff, ac maent yn helpu disgyblion i ganolbwyntio ar ddull mwy holistaidd o ymdrin ag iechyd a lles. Roeddem wedi gweld gostyngiad mewn cyfraddau cyfranogi, yn enwedig ymhlith merched, ond mae’r gampfa newydd yn benodol wedi helpu i adfywio’r sector hwn.”
 
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych: “Ar ôl buddsoddi yn iechyd a lles y genhedlaeth nesaf, mae’n galonogol iawn gweld llwyddiant Hamdden Prestatyn. Mae nifer ysbrydoledig o ddisgyblion wedi ymaelodi â Hamdden Sir Ddinbych trwy ein categori aelodaeth iau, sy’n golygu eu bod yn hyfforddi ar ôl ysgol yn ogystal ag yn ystod oriau ysgol. Ers mis Medi, mae’r cyfleusterau hefyd yn cael eu defnyddio’n wythnosol gan ysgolion bwydo Ysgol Uwchradd Prestatyn, sydd wrth eu boddau â gweithgareddau Clip ‘n Climb ac IGames. Drwy ysgogi ein pobl ifanc i fwynhau bod yn egnïol, mae Hamdden Sir Ddinbych wedi ysbrydoli diwylliant o les, gwydnwch a gweithgarwch corfforol gydol oes y bydd y myfyrwyr yn elwa ohonynt ymhell y tu hwnt i’w blynyddoedd ysgol.”