Cyhoeddi Cyngerdd ‘Pops y Nadolig’ rhad ac am ddim blynyddol i gychwyn y tymor Nadoligaidd yn Theatr y Pafiliwn y Rhyl
Mae Denbighshire Leisure Ltd (DLL), mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Rhyl, wrth eu bodd yn cyhoeddi dychweliad y digwyddiad blynyddol poblogaidd, rhad ac am ddim, ‘Pops y Nadolig’, sy’n addo noson ysblennydd o gerddoriaeth a sirioldeb Nadoligaidd yn Theatr y Pafiliwn y Rhyl.
Bydd y cyngerdd, sy’n rhad ac am ddim i’w fynychu ac sy’n elfen hanfodol o galendr Nadoligaidd y dref yn cael ei gynnal ar Ddydd Sul, 23 Tachwedd 2025 am 5pm. Mae rhaglen eleni’n siŵr o syfrdanu, gan gynnwys cymysgedd amrywiol a hynod ddifyr o dalent.
Mae tocynnau ar gyfer cyngerdd ‘Pops y Nadolig’ yn mynd ar werth am 10am ddydd Mercher 22ain Hydref, ac maent AM DDIM. Mae angen archebu tocynnau ymlaen llaw yn Swyddfa Docynnau Pafiliwn y Rhyl, a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd y galw mawr, mae tocynnau wedi’u cyfyngu’n llym i bedwar y cartref.
Bydd y drysau’n agor o 4pm gan roi digon o amser i’r rhai sy’n mynychu’r cyngerdd gyrraedd a mwynhau diod cyn y sioe, neu wneud diwrnod o ddathliadau Nadoligaidd gyda phryd o fwyd yn Bwyty a Bar 1891 ymlaen llaw.
Mae gan y noson rywbeth at ddant pawb, gyda chymysgedd o gerddoriaeth a chwerthin. Bydd Graffiti Classics yn camu ar y llwyfan, sef pedwarawd llinynnol cabaret comedi sy’n adnabyddus am eu cymysgedd unigryw o gerddoriaeth, comedi, ac awyrgylch theatrig. Mae’r pedwarawd hwn yn gwarantu perfformiad sy’n athrylithgar yn dechnegol ac yn chwerthinllyd o ddoniol. Bydd Jamie Leahey, y fentrilocwydd ifanc hynod dalentog, yn dod â’i swyn a’i hiwmor i’r llwyfan, gan arddangos pam ei fod wedi dod yn ffefryn cenedlaethol. Mae Welsh of the West End yn gasgliad syfrdanol o gantorion o Gymru sydd wedi ennill gwobrau ac sydd wedi perfformio yn rhai o’r sioeau cerdd mwyaf yn fyd-eang. Byddant yn perfformio ffefrynnau Nadoligaidd clasurol a ffefrynnau theatr gerdd.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae cyngerdd blynyddol ‘Pops y Nadolig’ yn un o uchafbwyntiau ein blwyddyn, ac rydym yn hynod falch o’i gynnal unwaith eto mewn cydweithrediad â Chyngor Tref y Rhyl. Y digwyddiad hwn yw ein rhodd Nadolig i’r gymuned, sy’n cynnig adloniant Nadoligaidd o’r radd flaenaf yn rhad ac am ddim. Mae eleni’n addo bod y mwyaf ysblenydd eto. Rydym yn annog pawb i nodi’r dyddiad a ffonio’r Swyddfa Docynnau yn brydlon i sicrhau eu tocynnau ar gyfer yr hyn a fydd yn noson wych.”
Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Alexander Walker: “Mae gan Gyngor y Dref draddodiad hir o ddod â sirioldeb y Nadolig i’r Rhyl ac rydym yn falch o fod yn cydweithio â DLL i wneud hynny eto eleni. Mae Pops y Nadolig yn cyhoeddi dechrau’r tymor Nadoligaidd, gan daenu digon o adloniant a hud cerddorol i bawb ei fwynhau. Mae hwyl chwerthinllyd a rhai ffefrynnau theatr gerdd yn ffordd wych o gyfri i lawr i’r Nadolig i gychwyn arni ac edrychwn ymlaen at rannu’r digwyddiad gwych hwn gyda’r gymuned.”
Sut i Archebu: Gellir archebu tocynnau yn unig drwy ffonio Swyddfa Docynnau Pafiliwn y Rhyl ar: 01745 330000. Oriau agor y Swyddfa Docynnau yw 10am – 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae’r archebu’n agor am 10am ddydd Mercher 22 Hydref 2025.