Mae DLL yn falch o fod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda llu o weithgareddau yng Nghaffi R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.

Bydd rhai o ddisgyblion Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd Y Rhos yn perfformio yng Nghaffi R ddydd Mercher 1af Mawrth i nodi’r Diwrnod Cenedlaethol yng Nghymru, Dydd Gŵyl Dewi.

Anogir cwsmeriaid lleol a rhieni disgyblion Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd Y Rhos i ddod i Gaffi R ar fore Mercher, Mawrth 1af i fwynhau perfformiadau corawl gan ddisgyblion Ysgol Pen Barras Pen am 10:30yb ac Ysgol Stryd Y Rhos am 11yb.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Ysgol Pen Barras ac Ysgol Stryd Y Rhos i Gaffi R ar Ddydd Gwyl Dewi a pha ffordd well i ddathlu Diwrnod Mwyaf Gwladgarol Cymru yn y calendr na gydag adloniant gan gorau ysgolion lleol. Rydym yn angerddol am ein diwylliant Cymraeg a bydd ein Prif Gogydd yn rhoi blas o Gymru ar blatiau ein cwsmeriaid i’w fwynhau yn arbennig ar Fawrth 1af, felly peidiwch â cholli allan. ”

Mae Mawrth 1af yn nodi marwolaeth Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn 589CC ac fe’i dathlir yn flynyddol fel dathliad o’i fywyd a diwylliant Cymru.

Bydd Caffi R ar agor o 10am, a gall cwsmeriaid fwynhau cacen gri am ddim gyda pob diod Costa canolig a brynir yn ogystal a bwydlen lawn Caffi R gydag arbennigion Cymraeg ychwanegol gan gynnwys Pei cig oen mintys cennin a thatws mewn crwst pwff gyda sglodion a pys slwtsh, Byrgyr cig eidion Cymraeg Caffi R gyda rarebit Cymraeg, bacwn rhesog, sglodion a cholslo a pwdin bara brith menyn gyda chwstard.

I archebu bwrdd yng Nghaffi R, ffoniwch 01824 708099 neu cysylltwch â Chaffi R ar Facebook.