Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) a Chyngor Tref y Rhyl wrth eu bodd yn gwahodd y gymuned i gychwyn tymor yr ŵyl gyda digwyddiad Troi Goleuadau Nadolig y Rhyl ymlaen. 
 
Mae’r digwyddiad stryd am ddim yn addo prynhawn yn llawn hwyl yr ŵyl, adloniant teuluol, a seremoni goleuo cyffrous.Bydd y dathliadau’n digwydd yng Nghanol Tref y Rhyl ddydd Sadwrn, Tachwedd 22ain, gan ddechrau am 2yp.
 
Mae’r digwyddiad stryd fawr AM DDIM ac mae’n cynnwys rhestr anhygoel o adloniant i bob oed, gan gynnwys:
Y Glowbot anhygoel yn ychwanegu disgleirdeb  i’r strydoedd, Peintio Wynebau AM DDIM i blant, Glob Eira enfawr sy’n cynnig cefndir perffaith ar gyfer lluniau Nadoligaidd anhygoel, perfformiadau gan Fand Gorymdeithio Ieuenctid y Rhyl, DJ, ac adloniant amrywiol i blant.
 
Bydd yna hefyd greadigaethau rhyfeddol gan Mr Magico, cymeriadau mewn gwisgoedd â thema Nadoligaidd yn crwydro’r digwyddiad a pherfformiadau tymhorol gan Gôr Plant Enchanting Entertainment.
 
Mae’r cyfrif i lawr i’r Nadolig yn dechrau’n swyddogol pan fydd cast Panto Pafiliwn y Rhyl eleni, Sleeping Beauty, yn troi’r goleuadau ymlaen, a fydd yn cael eu hymuno ar y llwyfan gan Faer Tref y Rhyl, y Cynghorydd Alexander Walker. Cyfle perffaith I gyfarfod a chyfarch gyda’r cast a gynhelir yn ystod y prynhawn.
 
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wrth ein bodd yn partneru â Chyngor Tref y Rhyl i gynnig penwythnos o adloniant am ddim i deuluoedd yn y Rhyl! Credwn fod dod â’n cymuned ynghyd yn arbennig o bwysig yn ystod tymor y gwyliau. Ymunwch â ni i ddathlu’r tymor Nadoligaidd gyda Chynnau Goleuadau’r Nadolig ddydd Sadwrn, ac yna fwy o adloniant yn y theatr gyda Chyngerdd Pops y Nadolig ddydd Sul – ffordd berffaith o gychwyn ysbryd y Nadolig gyda’ch teulu a’ch ffrindiau!”.
 
Dywedodd Maer Tref y Rhyl, y Cynghorydd Alexander Walker: “Mae mis Tachwedd yn gyfnod prysur i’r Rhyl gyda chyngerdd Pops  Nadolig a’r goleuadau’n cael eu troi ymlaen. Mae’r Rhyl bob amser yn llawn hwyl Nadoligaidd, ac mae cyngor y dref wrth ei fodd yn parhau i ddarparu’r goleuadau a digwyddiad am ddim i ddod â rhywfaint o hwyl Nadolig cynnar i’r gymuned. Mae troi’r goleuadau ymlaen yn gyfle da i glywed gan sêr Panto’r dref, i deuluoedd a ffrindiau ddod at ei gilydd ac i ni i gyd fwynhau’r cyfri i lawr i’r dathliadau. Rydym yn edrych ymlaen at brynhawn gwych.”
 
*Er sylw: Bydd dangosiad tan gwyllt byr ar ol i’r goleuadau cael eu droi ymlaen.*