Wrth i haf gwych arall ddod i ben i DLL, rydym eisiau diolch i bawb sydd wedi ymuno â ni eleni, am rai diwrnodau allan cofiadwy a digwyddiadau anhygoel.

Er gwaetha’r siom bod parc dŵr SC2 yn gorfod aros ar gau dros yr haf, fe wnaethon ni bopeth o fewn ein gallu i gadw’r Rhyl i wenu, ac yn ôl yr ymateb cadarnhaol gennych chi i gyd, roedd yn llwyddiant ysgubol!

Roeddem wrth ein bodd i weld ein digwyddiadau hwyl am ddim i’r teulu ar Deras 1891 yn dychwelyd yr haf hwn a diwrnodau hwyl Shack newydd sbon am ddim, y ddau yn llawn dop gydag wynebau hapus, a phobl o bob oed yn ymuno yn yr hwyl.

Mewn penwythnos bythgofiadwy, fe wnaethom hefyd lansio ein digwyddiad Penwythnos Hafaidd rhad ac am ddim cyntaf un, a heidiodd dros 2,000 o bobl i Theatr y Pafiliwn y Rhyl i ymuno â ni am strafagansa dau ddiwrnod o adloniant rhad ac am ddim.

Cynhaliodd y Cwt Traeth, Prestatyn ein diwrnodau hwyl enwog i’r teulu ar y traeth, gan orffen yr Haf gyda prynhawn o hwyl i’r teulu diwedd y tymor, a fynychwyd yn fwy nag erioed, gan brofi ein bod ni, mewn arddull DLL go iawn, yn gwybod sut i gynnal digwyddiadau gwych i bawb!

Roedd esgidiau dawnsio i’w gweld ym mhob man ar y llawr ddawnsio yn ystod ein nosweithiau grwfi Northern Soul, ac ar gyfer digwyddiad newydd arall, ein Disgos Tawel yn Nova. Un arall eto oedd Paent a Llymaid, y noson gelfyddydol orau, a gynhaliwyd yng Nghaffi R, Rhuthun ac a oedd yn llwyddiant ysgubol.

Ar draws ein holl leoliadau, roedd cwsmeriaid wrth eu bodd â’n dewislen Spritz Hafaidd o goctels a diodydd hafaidd, a roddodd naws gwyliau’r haf go iawn i bawb, hyd yn oed os nad oedd y tywydd bob amser ar ein hochr ni!

Rydym wedi cael haf bendigedig ac rydym wrth ein bodd gyda’r ymateb gan bawb a ymunodd â’n digwyddiadau, ac am eich cefnogaeth anhygoel. Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn eich gweld chi, ac rydyn ni eisoes yn cynllunio haf 2025! Welwn ni chi yno!