Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau ynghylch yr amserlen ar gyfer ailagor ein parc dŵr SC2 yn y Rhyl, ac mewn ymateb hoffem rannu’r sefyllfa bresennol â phawb.

Fel y gwyddoch i gyd, mae’r parc dŵr wedi bod ar gau ers y Flwyddyn Newydd oherwydd difrod stormydd, a effeithiodd ar do’r parc dŵr. Roedd y difrod hwn yn waeth nag yr oeddem wedi meddwl i ddechrau ac mae’n edrych yn debyg na fyddwn yn gallu agor y parc dŵr am weddill y tymor. Mae’n wirioneddol dorcalonnus gweld un arall o’n cyrchfannau blaenllaw yn cau oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf pan fyddent fel arfer dan ei sang bob dydd.

Fel busnes lleol, ni allwn aros i weld ein parc dŵr poblogaidd yn agor unwaith eto, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y gwaith adfer yn symud ymlaen cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, mae’r difrod i’r to yn ogystal â’r mynediad cyfyng sydd gennym oherwydd gwaith arall sy’n digwydd, yn golygu na all y parc dŵr agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd.

Bydd gan y Pad Sblash allanol sgaffaldiau ar y safle i gwblhau’r gwaith to, felly byddai’n anniogel gweithredu’r Pad Sblashio tra bod y gwaith yn mynd rhagddo. Diogelwch ein staff a’n cwsmeriaid yw ein prif flaenoriaeth.

Mae’r adeilad yn parhau i fod ar agor, gyda’n harena Ninja TAG a Chwarae Antur heb eu heffeithio gan y difrod, a bydd yr atyniadau hynny’n parhau i weithredu fel arfer. Yn ffodus, mae’r difrod wedi’i gyfyngu i uwchben y parc dŵr, sy’n ein caniatáu ni i barhau ein sesiynau SC2 Ninja TAG, partïon pen-blwydd a’n caffi Chwarae Antur gyda Chosta! Rydym wedi ymestyn ein sesiynau TAG, ac rydym eisiau sicrhau ein cwsmeriaid y bydd ein groto Nadolig enwog a’n profiad Ninja TAG yn digwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac ni allwn aros i’ch croesawu chi iddo!

Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r addaswyr colled a syrfewyr arbenigol i gytuno ar gwmpas y gwaith, ac mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu bob wythnos. Gwerthfawrogwn yr hoffai pawb gael dyddiad pendant ar gyfer ailagor, ond oherwydd maint y gwaith a’r broses hirfaith dan sylw, nid yw hyn yn bosibl ar hyn o bryd, fodd bynnag gallwn ddweud na fyddwn yn gallu ailagor y parc dŵr yr haf yma.

Mae’r rhan fwyaf o rhanddeiliaid wedi deall ein safbwynt yn iawn, a gobeithiwn fod y datganiad hwn yn helpu i egluro’r amgylchiadau anodd y mae DLL yn eu hwynebu unwaith eto. Y peth olaf yr oeddem eisiau, fel cwmni, oedd cau yn ystod ein tymor prysuraf, yn enwedig ar ôl y tair blynedd diwethaf o darfu cyson ar ein busnes a achoswyd gan wahanol ddigwyddiadau tywydd eithafol. Yn anffodus, rydym eisoes wedi gweld llawer o sylwadau angharedig ar gyfryngau cymdeithasol, ac rydym am atgoffa pawb ein bod yn fusnes lleol sy’n cyflogi gweithlu hynod weithgar ac ymroddedig. Rydym yn gyflogwr lleol mawr, yn gwneud ein gorau glas i gynnal a thyfu busnes yn ystod hinsawdd economaidd anodd iawn. Rydym yn falch iawn o’r ffaith ein bod yn cynnig gwasanaeth arbennig, a’n bod nid yn unig wedi goroesi ond wedi tyfu, tra bod llawer o gwmnïau hamdden ledled y DU wedi dioddef yn wael. Felly cofiwch fod ein gweithlu a’u teuluoedd yn darllen sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol. Byddwch yn garedig – rydym i gyd yn y sefyllfa yma gyda’n gilydd ac rydym yr un mor siomedig â’n cwsmeriaid nad yw ein parc dŵr ar agor yr haf hwn. Byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau pan fyddant ar gael. Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi darparu negeseuon o gefnogaeth, mae eich teyrngarwch a’ch arferiad parhaus i Ninja TAG a Chwarae Antur SC2 yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn bwysig nawr yn fwy nag erioed. Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i fuddsoddi yn y Rhyl, a darparu cyfleusterau o’r safon uchaf. Rydym yn parhau i fod yn un o’r prif fusnesau lleol sy’n dal i fuddsoddi i wneud y Rhyl yn gyrchfan o ddewis, a byddwn yn dod yn ôl yn llawer cryfach yn arddull DLL go iawn.

#DLLYdymNi

– Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf