Diwrnod agored Clwb y Rhyl yn dathlu buddsoddiad o £1 miliwn gan DLL gyda dros 200 yn cymryd rhan
Er mwyn dathlu buddsoddiad gwych o £1 miliwn gan DLL i ailwampio Clwb y Rhyl, roedd DLL yn falch o weld cymaint o’r gymuned leol yn cefnogi’r Diwrnod Agored Am Ddim i’r Teulu.
Trwy gydol y prynhawn, cymerodd dros 200 o bobl ran mewn sesiynau blasu, yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau am ddim, dosbarthiadau ymarfer corff am ddim a dosbarthiadau meistr arbennig oedd yn cael eu cyflwyno gan hyfforddwyr Technogym a BOX12.
Roedd y diwrnod yn boblogaidd iawn, gyda nifer o westeion yn tynnu sylw at yr hwyl a’r amgylchedd cefnogol trwy gydol y dydd. Roedd pob cornel o’r safle yn fwrlwm o weithgaredd, o Swimathon gyda Chlwb Nofio y Rhyl i saethyddiaeth, sawl camp gyda Chymunedau Bywiog DLL, dosbarthiadau yn yr awyr agored a llawer mwy.
Un o’r uchafbwyntiau oedd sesiynau blasu Assist Fit a oedd yn boblogaidd iawn, gan roi cyfle i gyfranogwyr brofi ffordd newydd a chefnogol o ymarfer corff. Wedi’i ddylunio i bobl sy’n adsefydlu, oedolion hŷn neu unrhyw un sy’n rheoli cyflyrau iechyd hirdymor, mae Assist Fit yn cynnig ymarferion effeithiol, effaith isel drwy beiriannau ymarfer corff gyda chymorth pŵer.
Roedd y safle yn llawn cyffro, gan ddangos y gorau o’r hyn sydd gan Glwb y Rhyl i’w gynnig ac roedd y digwyddiad yn ddathliad gwirioneddol o gymuned, lles a hwyl.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL): “Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cyfleusterau yn golygu bod Clwb y Rhyl bellach yn gyfleuster ffitrwydd sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol, ac mae’r safon a gwerth mae ein haelodau yn eu mwynhau o’r radd flaenaf. Bydd y buddsoddiad hwn yng Nghlwb y Rhyl yn sicrhau y bydd aelodau DLL yn cael mynediad i’r profiadau ffitrwydd mwyaf modern o ran technoleg yn y wlad. Mae enw da DLL fel gweithredwr hamdden arloesol a blaengar yn y sector wedi parhau i ddatblygu, a hithau’n gyfnod heriol i nifer yn y sector hamdden, mae DLL unwaith eto yn mynd yn groes i dueddiadau cenedlaethol ac yn buddsoddi yn ei gyfleusterau. Roedd hi’n bleser gennym weld cymaint o’r gymuned yn dod i gefnogi’r digwyddiad ac i ddathlu’r cyfleusterau gwych sydd gennym yng Nghlwb y Rhyl. Fe hoffem ddiolch yn fawr i bawb a ymunodd â ni a’n helpu i wneud y digwyddiad yn ddathliad mor arbennig”.
Mae Clwb y Rhyl ar agor i unrhyw un ac mae’n ganolfan ffitrwydd lleol o safon. Archebwch daith rownd Clwb y Rhyl drwy ffonio 01824 712661 neu dewch i’r safle i siarad gydag un o staff cyfeillgar a gwybodus DLL.
I gael mwy o wybodaeth am Glwb y Rhyl, ewch i denbighshireleisure.co.uk neu ffoniwch Clwb y Rhyl ar 01824 712661.