Diwrnod Agored i Deuluoedd am Ddim yng Nghlwb y Rhyl i Ddathlu Trawsnewidiad o £1 Miliwn
I ddathlu buddsoddiad gwych DLL o £1 miliwn yn adnewyddu Clwb y Rhyl, mae DLL yn falch iawn o wahodd y gymuned i Ddiwrnod Agored i Deuluoedd am Ddim.
Drwy gydol y prynhawn, bydd cyfle gan westeion i gymryd rhan mewn sesiynau campfa a dosbarthiadau ymarfer corff grŵp am ddim, gan gynnwys Pilates, Clwb Seiclo, HIIT, a sesiwn hyfforddi Awyr Agored. Gall mynychwyr hefyd fanteisio ar ddosbarthiadau meistr BOX12 a Technogym unigryw am ddim, gan gynnig sesiynau a gweithdai dan arweiniad arbenigwyr a gynlluniwyd i ysgogi ac addysgu. I’r rhai sydd angen cefnogaeth arbenigol, mae ein sesiynau Assist-Fit yn berffaith ar gyfer oedolion hŷn, a’r rhai sy’n rheoli cyflyrau iechyd hirdymor.
Mae croeso i bawb, p’un a ydych chi’n newydd i ymarfer corff, eisiau rhoi cynnig ar ddosbarth neu’n chwilio am rywbeth i wneud eich teulu’n fwy heini!
Bydd y Diwrnod Agored yn digwydd yn Hamdden y Rhyl ddydd Sadwrn 6ed Medi am 1:00pm – 5:00pm ac mae’n gyfle gwych i bawb weld y cyfleusterau anhygoel a mwynhau ystod eang o weithgareddau am ddim sy’n addas ar gyfer pob oed.
Gall teuluoedd fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hwyliog a rhyngweithiol am ddim a gyflwynir gan ein tîm Cymunedau Bywiog, gan gynnwys Beiciau Cydbwysedd, Golff-droed, a llawer mwy sydd ar gael i’w chwarae ar y diwrnod!
Bydd cyfle hefyd i ymwelwyr gwrdd â chynrychiolwyr o glybiau chwaraeon lleol i ddarganfod mwy am yr hyn sydd gan gymuned y Rhyl i’w gynnig. Yn ogystal, bydd samplau cynnyrch a lluniaeth am ddim ar gael drwy gydol y dydd.
Bydd y diwrnod hefyd yn cynnwys cystadlaethau a gwobrau gan frandiau ffitrwydd blaenllaw, yn ogystal â chynnig aelodaeth unigryw sydd ar gael am un diwrnod yn unig.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr “Allwn ni ddim aros am y diwrnod agored hwn, mae’n achlysur perffaith i brofi pam mae Clwb y Rhyl yn cael ei gydnabod fel canolfan ffitrwydd a lles premiwm i’r gymuned. Gyda gweithgareddau i bob oed ac arweiniad arbenigol ar gael drwy gydol y dydd, mae yna rywbeth i bawb. Mae ein hymrwymiad i fuddsoddi yn ein cyfleusterau wedi gweld Clwb y Rhyl yn dod yn gyfleuster ffitrwydd a gydnabyddir yn genedlaethol, ac mae’r ansawdd a’r gwerth y mae ein haelodau’n eu mwynhau yn ail i ddim. Mae’r tîm cyfan yn y Rhyl yn edrych ymlaen yn fawr at weld pawb am yr hyn a fydd yn brofiad hwyliog i bawb a gobeithiwn y byddwch chi’n mwynhau gweld yr hyn sydd gan Glwb y Rhyl i’w gynnig, profiad nad yw ar gael yn unman arall.”
I archebu dosbarth ymarfer corff grŵp, sesiwn blasu Assist Fit neu am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01824 712661.