Diwrnod recriwtio hynod lwyddiannus ar gyfer swyddi newydd gyda DLL yn SC2 y Rhyl
Bu dros 100 ymholiad i ymuno â’r tîm yn SC2 y Rhyl, gyda’r parc dŵr yn cynnal diwrnod recriwtio heddiw, dydd Iau, 13eg Mawrth.
Mae hyd at 40 o swyddi ar gael ac mae’r ceisiadau’n cau ar 24ain Mawrth, felly mae dal amser i bobl gael eu ceisiadau os nad oedden nhw’n gallu cyrraedd y digwyddiad recriwtio heddiw.
Yn ystod y dydd, cafodd pobl y cyfle i ddysgu am Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) ac SC2 y Rhyl, siarad ag amrywiaeth o reolwyr a gofyn cwestiynau, cael gwell dealltwriaeth o’r amrywiaeth o rolau o fewn y cwmni, a chael cyfarfod a chyfarch y tîm.
Mae’r rolau sydd ar gael yn cynnwys; Cynorthwyydd Hamdden, gwesteiwr TAG Ninja, Cogydd Sous, Porthor Cegin, Cynorthwyydd Blaen Tŷ a Chynorthwyydd Bwyd a Diod yn SC2 y Rhyl. Gall ymgeiswyr wneud cais am y rhain ar-lein ar wefan DLL o dan ‘gyrfaoedd’.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wrth ein bodd yn dod â mwy o gyfleoedd cyflogaeth i’r gymuned; bron â dyblu ein gweithlu ers i’r cwmni gael ei eni yn ôl yn 2020; ac rydym wedi ymrwymo i wneud hwn yr haf gorau i ni ei gael erioed yn SC2. Roedd pawb yn DLL wedi siomi i dreulio’r flwyddyn ddiwethaf gyfan heb ein parc dŵr arbennig. Felly, fel y gallwch ddychmygu, rydym yn hynod gyffrous i fod yn cynllunio’r ail-agoriad. Rydym yn gweithio ar raglen dymhorol newydd a fydd yn cynnwys llawer o gynigion am ddim yn ogystal â chynigion cost isel i drigolion lleol groesawu pawb yn ôl. SC2 yw’r diemwnt yng nghoron y Rhyl ac ni allwn aros i greu atgofion gyda phreswylwyr ac ymwelwyr eto!
“Hoffwn yn bersonol ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ein cefnogi tra bod y gwaith hwn wedi bod yn mynd yn ei flaen, mae’r gweithlu cyfan wedi gwerthfawrogi eich holl negeseuon o gefnogaeth a nawr, cyffro ar gyfer yr ail-agoriad! Mewn arddull DLL go iawn, ni fyddwn yn gadael i’r rhwystr hon ein dal yn ôl ac rydym yn gyffrous i ddod yn ôl yn fwy ac yn well nag erioed, gyda rhai syrpreisys cyffrous i’w cyhoeddi’n fuan!”
I gael rhagor o wybodaeth, yn ogystal â rolau eraill sydd ar gael ar draws DLL a’r bwytai ac atyniadau arfordirol, ewch i denbighshireleisure.co.uk/cy/gyrfaoedd/