Mae’r dathliadau Nadolig wedi dechrau yn Rhyl, gyda’r digwyddiad Goleuadau Nadolig a chyngerdd Pops Nadolig, a drefnwyd a’i redwyd gan Hamdden Sir Ddinbych (DLL) a Chyngor Tref y Rhyl, y tymor Nadoligaidd penwythnos diwethaf!

Denodd y digwyddiad goleuadau ‘dolig ar brynhawn Sadwrn 22ain, a chyngerdd Pops Nadolig Pops ar nos Sul 23ain, dyrfaoedd i ganol tref y Rhyl ac roedd awyrgylch Pops Nadolig yn drydanol, gan greu dechrau gwych i dymor y Nadolig i’r gymuned.

Roedd rhestr anhygoel o adloniant am ddim i bob oed yn y digwyddiad goleuadau Nadolig ar brynhawn Sadwrn. Roedd uchafbwyntiau’n cynnwys perfformiadau cerddorol rhagorol gan Fand Gorymdeithio Ieuenctid y Rhyl, Côr Dan Hyfforddiant Bethan Jones, y Glowbot y  a peintio wynebau am ddim, cerddoriaeth gan DJ Paul, hud a llledrith gan Mr Magico a’r glôb eira enfawr i adloni’r rhai bach.

Cyrhaeddodd y brif foment pan gafodd y goleuadau Nadolig eu cynnau’n swyddogol gan sêr Panto Theatr Pafiliwn y Rhyl eleni, Sleeping Beauty, a ymunodd Maer Tref y Rhyl, y Cynghorydd Alexander Walker, â nhw ar y llwyfan. Cafodd y rhai a fynychodd y digwyddiad gyfle arbennig hefyd i gwrdd â chast y panto yn agos ac yn bersonol.

Parhaodd yr ysbryd Nadoligaidd ddydd Sul gyda Chyngerdd Pops Nadolig Blynyddol am ddim yn Theatr Pafiliwn y Rhyl. Roedd y cyngerdd yn llwyddiant ysgubol, gyda pherfformiadau anhygoel gan Welsh of the West End, y fentriloquist talentog Jamie Leahey, a’r act cerddorol doniol a medrus Graffiti Classics. Roedd adborth gan y gynulleidfa yn wych, gan gadarnhau bod y digwyddiad yn ddechrau perffaith i ddathliadau’r Nadolig.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wrth ein bodd gyda’r nifer a ddaeth a llwyddiant gwych Penwythnos Nadoligaidd eleni. Rydym yn falch o gynnig penwythnos o adloniant am ddim i deuluoedd yn y Rhyl, mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Rhyl. Credwn fod dod â’n cymuned ynghyd yn arbennig o bwysig yn ystod tymor y gwyliau ac roedd y penwythnos diwethaf yn ffordd berffaith o ddechrau tymor yr ŵyl!”

Dywedodd maer y Rhyl, y Cynghorydd Alexander Walker: “Roedd y penwythnos yn un arbennig iawn i’r Rhyl gyda’r ddau ddigwyddiad yn denu cannoedd o bobl. Roedd y digwyddiad Goleuadau Nadolig yn hwyl i’r teulu cyfan, ac roedd yr actiau a gymerodd ran yn y Pops Nadolig yn wych. Daeth y cyngerdd a’r goleuadau â naws Nadoligaidd go iawn i’r Rhyl, ac mae cyngor y dref wrth eu bodd eu bod wedi dechrau’r tymor Nadoligaidd mewn steil.”

Mae llu o weithgareddau Nadoligaidd wedi’u cynllunio yn DLL, o Ninja TAG â thema Nadoligaidd, Chwarae Antur yn SC2 a Nova, i Clip n Climb ac iGames Nadoligaidd yn Hamdden Prestatyn. Am ragor o wybodaeth, ewch i DLL.co.uk.