Bydd DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) a Chyngor Sir Dinbych yn goleuo eu hatyniadau yn borffor ddydd Mawrth 27 Ionawr, fel rhan o foment genedlaethol Goleuo’r Tywyllwch ar gyfer Diwrnod Cofio’r Holocost.

Bydd Canolfan Grefftau Rhuthun, Tŵr Awyr y Rhyl, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, rhaeadr yr Arena Digwyddiadau, a llochesi arfordirol Sir Dinbych i gyd yn goleuo yn borffor i gefnogi’r ymgyrch hon o undod a choffáu.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn ddiwrnod o gofio i anrhydeddu’r miliynau a ddioddefodd a bu farw yn ystod yr Holocost. Mae hefyd yn cofio hil-laddiadau eraill a gweithredoedd o drais sydd wedi digwydd ledled y byd. Thema ymgyrch eleni yw Pontio Cenedlaethau, sydd wedi’i chynllunio i’n hannog i ymgysylltu â’r gorffennol, wrth wrando a chario gwersi a ddysgwyd ymlaen.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Dinbych i oleuo ein hadeiladau a’n hatyniadau i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost. Gyda Phontio’r Cenedlaethau fel thema ymgyrch eleni, credwn ei fod yn hynod bwysig i ni i gyd wrando a dysgu o ddigwyddiadau’r gorffennol a hefyd i sicrhau bod y rhain yn llywio ein penderfyniadau yn y dyfodol ac yn ein helpu i herio a siarad yn erbyn rhagfarn”.

Dywedodd y Cynghorydd Julie Matthews, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol dros Strategaeth Gorfforaethol, Polisi, Cydraddoldeb ac Asedau Strategol: “Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn amser i gofio’r miliynau o fywydau a gollwyd ac i fyfyrio ar bwysigrwydd sefyll yn erbyn casineb, rhagfarn a gwahaniaethu ym mhob ffurf. Drwy gofio’r gorffennol, rydym yn cadarnhau ein cyfrifoldeb ar y cyd i hyrwyddo caredigrwydd, dealltwriaeth a pharch yn ein cymunedau heddiw.”