Mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn gyffrous i groesawu’r digrifwr a’r actor dawnus John Thomson i’r Panto y Nadolig hwn.

Mae John Thomson, sy’n fwyaf adnabyddus am ei ran yn y gyfres deledu Cold Feet, The Fast Show, Men Behaving Badly, 24 Hour Party People, The Brothers Grimsby a Coronation Street, yn gyffrous i gamu i rôl y Baron.

Mae DLL wedi cyhoeddi na fydd Beverley Callard bellach yn gallu perfformio rhan y Llysfam Drygionus yn y pantomeim Nadolig eleni yn Theatr Pafiliwn y Rhyl oherwydd anaf.

Dywedodd Beverley: “Mae gen i anaf annisgwyl i’r ysgwydd ac mae’n rhaid i mi gael llawdriniaeth sy’n golygu, yn anffodus, ni fyddaf yn gallu perfformio yn y panto eleni ac rwyf wedi fy siomi. Mae’n gast hwyliog iawn, ac roeddwn i’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw i gyd. Bydd yn sioe wych.”

Mae ymarferion ar gyfer y pantomeim yn cychwyn ddydd Gwener yma, i baratoi ar gyfer y noson agoriadol ar Ragfyr 7fed, ac yn para tan Rhagfyr 31ain.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae pawb yn DLL yn drist o glywed y newyddion hyn a hoffent ddymuno gwellhad buan i Beverley. Mae Beverley Callard yn dalent ffantastig, bydd colled fawr ar ôl ei phresenoldeb, a dymunwn y gorau iddi. Yn y cyfamser, rydym yn gyffrous iawn i groesawu’r digrifwr a’r actor dawnus John Thomson i’r theatr, ac edrychwn ymlaen at dymor panto bendigedig.”

Mae tocynnau ar gyfer y sioe Nadoligaidd yma ar gael nawr! Bachwch eich tocynnau drwy wefan Pafiliwn y Rhyl neu drwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01745 330000.