DLL ar y rhestr fer ar gyfer ddwy wobr Twristiaeth Gogledd Cymru
Mae DLL (Denbighshire Leisure Ltd/ Hamdden Sir Ddinbych Cyf) wedi’i chydnabod gan Gwmni Twristiaeth Gogledd Cymru ac wedi’i gynnwys ar y rhestr fer ar gyfer 2 wobr nodedig yng ngwobrau Awn i Ogledd Cymru yr Hydref hwn.
Mae’r cwmni ar y gweill ar gyfer nifer o wobrau yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales, a gynhelir fis Tachwedd eleni, am y gwaith mae’r busnes yn ei wneud o fewn y diwydiant twristiaeth.
Mae Twristiaeth Gogledd Cymru yn fudiad aelodaeth di-elw sy’n cefnogi dros 1200+ o fusnesau sydd o fewn ac sy’n gysylltiedig â’r diwydiant twristiaeth ar draws Gogledd Cymru.
Y ddau gategori y mae DLL yn gobeithio llwyddo ynddynt yw: Marchnata a Chyfryngau y Flwyddyn gydag SC2 y Rhyl a Bistro, Caffi a Siop Goffi y Flwyddyn gyda Cwt y Y Traweth yn Nova Prestatyn.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi’n cydnabod unwaith eto yng ngwobrau Twristiaeth Go North Wales; y tro hwn am ddwy wobr. Mae’n wych gweld cwmni o Sir Ddinbych yn cael ei gydnabod am yr holl waith caled drwy’r busnes, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi’n henwebu ar gyfer y ddwy wobr, sy’n ardystio cwmni cryf, cyflawn ar bob lefel. Rwy’n hynod falch o’r gwaith rhagorol y mae DLL wedi’i arwain yn ddiweddar ac dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae gwaith caled ac ymroddiad y gweithlu cyfan yn DLL wedi ein helpu i gyrraedd lle’r ydym heddiw ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu holl gefnogaeth, yn enwedig ers lansio’r cwmni yn 2020. Fel cwmni, ein gwerthoedd, ein hymroddiad a’n hansawdd sy’n gwneud i ni sefyll allan, ac mae’n wych ein gweld yn cael ein cydnabod am y rhain. Mae bob amser yn fwy na swydd i’n gweithlu sydd bob amser yn mynd yr ail filltir.”