Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) yn dathlu ar ôl ennill gwobr genedlaethol, a chael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer pedair gwobr arall yng ngwobrau cenedlaethol Ffitrwydd UKactive yr wythnos diwethaf.

Roedd DLL wrth eu bodd gyda’u cyflawniad, gan ennill “Ymgyrch Farchnata Orau”, mewn seremoni a ddaeth â channoedd o weithwyr proffesiynol y diwydiant ffitrwydd yn y DU ynghyd yn Birmingham ddydd Iau diwethaf.

Roedd y cwmni yn y ras am 5 gwobr fawreddog, pob un ohonynt yn tynnu sylw at waith timau ar draws DLL, a’u heffaith ar y diwydiant ffitrwydd dros y 12 mis diwethaf.

Mae Ukactive yn gymdeithas ddiwydiannol ddi-elw, sy’n hyrwyddo buddiannau campfeydd ffitrwydd masnachol a chanolfannau hamdden gymunedol, gyda mwy na 4,000 o sefydliadau yn aelodau ledled y DU.

Ymhlith y categorïau y cafodd DLL eu rhoi ar y rhestr fer roedd: Gwobr Arloesi Sefydliadol, dwy Wobr Ymgyrch Farchnata, Gwobr Arweinyddiaeth Ragorol Unigol a Gwobr Tîm Arweinyddiaeth Ragorol.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae ennill gwobr genedlaethol mewn digwyddiad ledled y diwydiant yn gamp eithriadol, ac mae’r llwyddiant hwn yn dyst i waith caled, ymroddiad a chreadigrwydd holl dîm DLL. Rydym yn teimlo’n anrhydeddus iawn o gael ein cydnabod am ein hymdrechion, ac fel Rheolwr Gyfarwyddwr rwy’n hynod falch o’n buddugoliaeth. Mae’n wych gweld cwmni o Sir Ddinbych yn cael ei gydnabod yn genedlaethol am ei gyfraniad at y diwydiant hamdden. Fel cwmni, ein gwerthoedd, ein hymroddiad a’n hansawdd sy’n ein gwneud ni i sefyll allan, ac mae bob amser yn fwy na dim ond swydd i’n gweithlu, sydd bob amser yn mynd yr ail filltir. Hoffwn longyfarch yr holl enillwyr yng Ngwobrau eleni a diolch i’r tîm yn Ukactive am ddigwyddiad a gynhaliwyd yn dda a noson wych.”