Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) yn falch o gyhoeddi’r cast ar gyfer sioe gerdd boblogaidd Blood Brothers, fydd yn dod i Theatr Pafiliwn y Rhyl yr haf hwn.

Bydd Vivienne Carlyle yn dychwelyd i’r cynhyrchiad a rôl eiconig Mrs. Johnstone, ar ôl cael cymeradwyaeth sefyll bob nos am ei pherfformiad pwerus a theimladwy yng nghynhyrchiad y West End. Bydd Joe Sleight a’r actor lleol, Sean Jones, yn dychwelyd i’r cynhyrchiad fel yr efeilliaid, Mickey ac Eddie, gyda Gemma Brodrick yn dychwelyd i rôl Linda.

Bydd y canlynol yn dychwelyd i’r cast ar gyfer 2024 hefyd, Sarah Jane Buckley (Mrs Lyons), Scott Anson (Adroddwr), Tim Churchill (Mr Lyons), Chloe Pole (Donna Marie), Alex Harland (Heddwas/Athro), Graeme Kinniburgh (Postmon/Casglwr Tocynnau Bws) a Jess Smith (Brenda), gyda James Ledsham (Sammy), Ben Mabberley (Perkins) a Dominic Gore (Cymydog) yn ymuno â’r cynhyrchiad.

Dechreuodd stori epig y dramodydd arobryn, Willy Russell, fel drama a gafodd ei pherfformio mewn ysgol gyfun yn Lerpwl ym 1981, cyn agor fel sioe gerdd yn The Liverpool Playhouse ym 1983. Ers hynny, mae wedi bod yn llwyddiant ar draws y byd, gan werthu pob tocyn yn ystod cyfnodau yn UDA, Awstralia, Canada, Seland Newydd a Japan. Ychydig iawn o sioeau cerdd sydd wedi cael canmoliaeth fel mae Blood Brothers, sydd wedi ennill sawl gwobr, wedi’i chael, ac mae wedi ennill pedair gwobr am y Sioe Gerdd Orau yn Llundain a saith enwebiad am Wobr Tony ar Broadway.

Mae Blood Brothers yn adrodd hanes cyfareddol ac emosiynol efeilliaid sydd, ar ôl cael eu gwahanu ar eu genedigaeth, yn cael eu magu dan amgylchiadau tra gwahanol, gyda chanlyniadau trasig yn sgil eu haduniad.

Mae’r sgôr gerddorol wych yn cynnwys Bright New Day, Marilyn Monroe, a’r ffefryn llawn emosiwn, Tell Me It’s Not True.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym wrth ein boddau o gyflwyno cynhyrchiad poblogaidd Blood Brothers i Theatr Pafiliwn y Rhyl fis Awst. Mae’r sioe gerdd eiconig wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ar draws y byd ac rydym wrth ein boddau o gynnig cyfle i’n cymuned brofi perfformiad mor enwog a phwerus. Mae’n siŵr o fod yn ddigwyddiad cofiadwy, ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr rheolaidd â’r theatr, a chynulleidfaoedd newydd, i’r sioe wych hon yr haf hwn.”

Gellir prynu tocynnau trwy fynd i RhylPavilion.co.uk neu trwy ffonio tîm y Swyddfa Docynnau ar 01745 330000.