DLL yn cyhoeddi cefnogaeth i 73 o sefydliadau trwy Grant Cymunedol DLL
Yn ddiweddar mae DLL wedi cyhoeddi £430,000 i 73 o glybiau a sefydliadau lleol i gefnogi gweithgareddau chwaraeon, celfyddydau, diwylliannol a chreadigol yn Sir Ddinbych.
Roedd y cwmni (DLL) wedi derbyn yr arian gan Gyngor Sir Ddinbych, trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, i weinyddu’r cynllun ar ran Sir Ddinbych.
Mae’r grant wedi rhoi’r cyfle i sefydliadau a chlybiau llai yn Sir Ddinbych dderbyn cyllid cyfalaf a refeniw i gefnogi gweithgareddau megis perfformiadau cerddoriaeth a theatr, cyllid ar gyfer arddangosfeydd lleol, offer a chitiau chwaraeon, a chyllid i adnewyddu neu gynnal a chadw cyfleusterau presennol.
Derbyniodd Ysgol Cefn Meiriadog arian i osod heol heini ar gae’r ysgol er mwyn cynyddu’r gweithgaredd corfforol y gall y plant ei wneud tra’n datblygu eu sgiliau echddygol bras ymhellach. Derbyniodd Gweithdy Dinbych arian tuag at eu Hysgol Haf Celfyddydau Creadigol Dwyieithog flynyddol ar gyfer pobl ifanc difreintiedig. Mae’r ysgol haf yn cynnig cyfrwng creadigol i hybu lles a dod â phobl ifanc at ei gilydd.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wedi bod yn falch iawn o allu cefnogi cymaint o glybiau a sefydliadau dros 2 rownd o gyllid a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Ddinbych. Ein Cymuned yw un o dri philer ein cwmni, ac mae helpu i gynnal cyfranogiad cymunedol a seilwaith clwb yn parhau i fod yn flaenoriaeth i DLL. Gyda chyllid gan Lywodraeth y DU a chefnogaeth ac ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Ddinbych i’w gymunedau, mae’r grant wedi ein galluogi i helpu i gynnal a chefnogi grwpiau trydydd sector a sefydliadau chwaraeon a diwylliannol pwysig. Mae llawer o glybiau a sefydliadau yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr er budd y gymuned leol, ac yn darparu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd, y gwyddom sy’n cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles pobl.”
Bydd rhagor o wybodaeth am rai o’r prosiectau yn cael ei rhannu ar ein gwefan a’n tudalen Facebook dros y misoedd nesaf.
Roedd DLL hefyd wedi llwyddo i dderbyn arian drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddarparu rhaglen Celfyddydau Creadigol. Bydd y Rhaglen Celfyddydau Creadigol yn gweithio â phartneriaid trydydd sector allweddol a phartneriaid cymunedol ac iechyd i ddarparu rhaglen gyfranogol y celfyddydau mewn iechyd a lles, mewn lleoliadau cymunedol, gofal cymdeithasol ac iechyd. Cyfanswm y cyllid a dderbyniwyd gan DLL ar gyfer y ddau brosiect oedd £584,000.
Nodiadau i Olygyddion:
Nod y Gronfa Ffyniant Cyffredin yw gwella balchder mewn lleoedd a gwella cyfleoedd bywyd ledled y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus a https://www.sharedprosperitynorth.wales/