DLL yn Cyhoeddi Dychweliad Paul Smith i Theatr Pafiliwn y Rhyl
Mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn hapus i gyhoeddi y bydd y digrifwr stand-yp clodwiw Paul Smith yn dod â’i daith newydd sbon ‘HAPPY’ i Theatr Pafiliwn y Rhyl fel rhan o’i sioe fyw fwyaf hyd yn hyn.
Yn dilyn rhediadau sydd wedi gwerthu pob tocyn a llwyddiant ledled y byd, mae HAPPY yn gweld Paul Smith yn dychwelyd i’r llwyfan gyda’i waith torf nodweddiadol, ei arsylwadau miniog, a straeon gwir difyr, gan fynd â’i gomedi i lefel hollol newydd. Yn llawn hanesion bywyd go iawn, mae’r sioe’n dod o hyd i lawenydd yn yr anhrefn, chwerthin ym mywyd bob dydd, a chomedi ym mhopeth.
Mae’n glanio ym Mhafiliwn y Rhyl ddydd Mercher, 8fed Gorffennaf am 7.30pm, a gall cynulleidfaoedd ddisgwyl stand-yp cyflym, di-ofn, a doniol dros ben, gan gyflwyno chwerthin sy’n eich syfrdanu o’r funud gyntaf i’r olaf.
Mae’r daith nodedig hon yn nodi rhediad rhyngwladol mwyaf Paul Smith eto, gan gwmpasu’r DU, Iwerddon, Ewrop, Gogledd America, Awstralia, a Seland Newydd. Disgwylir i docynnau werthu’n gyflym oherwydd y galw mawr.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym wrth ein bodd yn croesawu Paul Smith yn ôl a’i daith newydd sbon ‘HAPPY’. Mae ei arddull unigryw, a’i gysylltiad â chynulleidfaoedd yn ei wneud yn un o’r digrifwyr mwyaf cyffrous sy’n perfformio heddiw. Edrychwn ymlaen at gynnal yr hyn sy’n addo bod yn noson bythgofiadwy o chwerthin yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.”
Os ydych chi’n hoffi eich comedi yn amrwd, yn real, ac yn afreolus, ‘HAPPY’ yw’r sioe na fyddwch chi eisiau ei cholli.
Gwybodaeth am Docynnau:
-
Rhagwerthiant: Dydd Mercher 25 Chwefror am 10am. Ar gael I danysgrifwyr e-byst marchnata theatr pafiliwn y Rhyl.
-
Gwerthiant Cyffredinol: Dydd Gwener 27 Chwefror am 10am.
-
Cyfyngiad Oedran: 16+ (yn ôl caniatad rhieni).
Mae tocynnau ar gael drwy Rhylpavilion.co.uk neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01824 774871.
