Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) yn falch o gyhoeddi partneriaeth gyffrous newydd gyda Heart Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Mae DLL bellach yn Partner Brand Penwythnos swyddogol Heart Gogledd a Chanolbarth Cymru, yn hyrwyddo holl leoliadau, atyniadau a safleoedd hamdden DLL ar draws y rhanbarth.

Roedd DLL a Heart Gogledd a Chanolbarth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’i gilydd yn ôl yn 2019 ar gyfer agoriad atyniad blaenllaw DLL, SC2 Y Rhyl, ac mae’r tîm bellach yn ôl gyda’i gilydd wrth i’r gyrchfan ail-lansio’r haf hwn.

Bydd Parc Dŵr SC2 yn ailagor ar y 5ed o Orffennaf ôl cyfnod o fod ar gau oherwydd difrod storm i’r to. Mae’r tîm wedi gweithio’n ddiflino i baratoi’r atyniad ar gyfer yr haf yn y Rhyl a bydd cael y bartneriaeth â Heart Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cychwyn yr agoriad gyda’n negeseuon allweddol yn cael eu darlledu i wrandawyr ledled y rhanbarth, gan ddenu ymwelwyr i’r Rhyl a chael effaith gadarnhaol ar ein heconomi leol.

Dywedodd Giselle Twist, Cyfarwyddwr Masnachol Heart Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ran Communicorp UK: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Hamdden Sir Ddinbych Cyf eto fel eu Partner Cyfryngau Swyddogol. Mae DLL wrth wraidd cynnig hamdden a thwristiaeth Gogledd Cymru, felly rydym yn gyffrous i gyhoeddi’r bartneriaeth 12 mis hon cyn ail-lansio Parc Dŵr SC2 yn yr haf. Trwy’r bartneriaeth hon, byddwn yn helpu i rannu atyniadau a lleoliadau gwych DLL gyda’n cynulleidfa ledled y rhanbarth – gan ysgogi ymwybyddiaeth, nifer yr ymwelwyr ac ymgysylltiad. Mae’n enghraifft berffaith o sut mae radio yn cysylltu brandiau lleol dibynadwy â’n gwrandawyr ffyddlon.”

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL, “Mae gweithio gyda brand mawr fel Heart Gogledd a Chanolbarth Cymru yn wych i ni fel cwmni, ac rydym yn gyffrous iawn i fod yn bartneriaid iddynt. Mae gan Heart Gogledd a Chanolbarth Cymru gynulleidfa enfawr ac rydym yn credu y bydd y bartneriaeth hon o fudd nid yn unig i DLL, ond i dref y Rhyl a’r ardal ehangach. Mae ethos Heart Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cwmpasu gwerthoedd DLL ac rydym yn gyffrous iawn i fod yn gweithio gyda’n gilydd dros y 12 mis nesaf.”