I ddathlu eu campfa newydd sbon yn Hamdden Prestatyn, mae Hamdden Sir Ddinbych yn gwahodd pobl ifanc yr ardal i ddod i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau ffitrwydd hwyliog am ddim.

Cynhelir dau ddiwrnod agored cymunedol yn Hamdden Prestatyn ddydd Gwener 20 Chwefror a dydd Sadwrn 21 Chwefror rhwng 9.30am a 3pm.

Ar draws y ddau ddiwrnod, bydd cyfle i’r rheiny sydd â diddordeb mewn cadw’n heini i gymryd rhan mewn amrywiaeth o sesiynau blasu ffitrwydd, gan gynnwys cyflwyniad i’r gampfa newydd wych, a fydd yn cynnwys sesiynau ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 17 oed yn unig.

Bydd cyfle hefyd i roi cynnig ar brofiad ‘Clip n’ Climb’ poblogaidd y ganolfan, a gynlluniwyd i herio ac ysbrydoli dringwyr 4 oed a hŷn, ac iGames – sy’n gyfuniad cyffrous o chwaraeon, gemau a thechnoleg i bob oed!

Mae amrywiaeth o gynigion arbennig wedi’u creu’n benodol ar gyfer y rheiny a fydd yn mynychu’r Diwrnodau Agored Cymunedol, gan gynnwys cynnig ‘mis cyntaf am ddim’ ar gyfer aelodaethau iau a thalebau gostyngiad eraill.

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych: “Credwn y bydd agor y gampfa newydd wych hon yn ychwanegu at sefydlu enw da Canolfan Hamdden Prestatyn fel canolbwynt ffitrwydd i bobl ifanc yng Ngogledd Cymru. Gyda chanllawiau arbenigol wrth law drwy gydol y daith, bydd y ddau ddiwrnod agored yn gyfle gwych i bobl ifanc yn yr ardal ddod i archwilio cyfleusterau anhygoel Hamdden Prestatyn a mwynhau rhai gweithgareddau ffitrwydd hwyliog, am ddim. Mae’r tîm cyfan ym Mhrestatyn yn edrych ymlaen yn fawr at weld pawb am brofiad sy’n argoeli i fod yn un gwych, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau gweld yr hyn sydd gan Hamdden Prestatyn i’w gynnig.”

Yn 2024, ail-lansiodd Hamdden Sir Ddinbych safle Hamdden Prestatyn yn llwyddiannus fel y ganolfan ffitrwydd iau orau yng Ngogledd Cymru, ac mae’r cyfleuster hynod boblogaidd hwn bellach yn cael ei ehangu ymhellach i gynnwys y gampfa newydd sbon, sy’n defnyddio’r offer Technogym diweddaraf. Bydd modd i aelodau iau ymarfer corff ar offer cardio Excite Live diweddaraf Technogym, gydag ystod wych o beiriannau rhedeg, beiciau a dymbelau, yn ogystal â mainc newydd gyffrous Technogym!

Yn dilyn llwyddiant y stiwdio Prama gyda disgyblion ysgol uwchradd, bydd Hamdden Sir Ddinbych nawr yn ehangu ei amserlen, gan gynnig sesiynau dan arweiniad hyfforddwr i aelodau iau a chlybiau chwaraeon iau lleol. Mae’r stiwdio Prama, sef y profiad ffitrwydd digidol cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn defnyddio sain, goleuadau, lloriau a waliau i’ch ysgogi a’ch tywys trwy brofiad hyfforddi unigryw, a bydd ar gael ar y ddau ddiwrnod i bobl ifanc roi cynnig arni.

Bydd ystafell ffitrwydd newydd sbon Hamdden Prestatyn hefyd yn cynnig sesiynau unigryw ar gyfer Aelodau Sylfaen – sef categori aelodaeth newydd sbon a grëwyd yn benodol gan Hamdden Sir Ddinbych ar gyfer y rheiny sy’n dechrau ar eu taith ffitrwydd ac yn chwilio am gefnogaeth wedi’i haddasu. Bydd y rhaglen Sylfaen newydd sbon, gan gynnwys sesiynau blasu, ar gael yn Hamdden Prestatyn o 23ain Chwefror.