Mae Pafiliwn y Rhyl, Bwyty 1891 a Chanolfan Grefft Rhuthun yn rhai o’r atyniadau sy’n cael eu goleuo mewn Coch, Gwyn a Glas i gefnogi Diwrnod y Lluoedd Arfog.

Bydd y Tŵr Awyr, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Bwyty a Bar 1891, Canolfan Grefft Rhuthun a llochesi promenâd y Rhyl i gyd yn cael eu goleuo ddydd Sadwrn, 29 Mehefin i gefnogi’r rhai sy’n rhan o gymuned ein Lluoedd Arfog a’u teuluoedd.

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cydnabod pob cangen o’r lluoedd, gan gynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn a chadetiaid, am eu hymroddiad a’u gwaith caled ledled y byd.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Mae DLL yn falch o ddathlu Diwrnod y Lluoedd Arfog trwy oleuo’r promenâd yn y Rhyl. Hoffem ddiolch yn ddiffuant i holl bersonél lluoedd arfog y DU, sy’n gweithio ledled y byd, yn aml yn peryglu eu bywydau ar ran pob un ohonom. Wrth oleuo atyniadau Hamdden Sir Ddinbych, byddem yn annog pawb yn Sir Ddinbych i ymuno â ni i dalu teyrnged i aelodau presennol a chyn-aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog. Mae ein dyled yn fawr iddynt oll, ac yn falch o allu eu cefnogi ar yr achlysur pwysig hwn.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i denbighshireleisure.co.uk.