DLL yn lansio partneriaeth ag InPost
Mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn falch iawn o ddatblygu ei daith cwsmer ymhellach, trwy ddod â loceri InPost i chwe lleoliad ar draws y sir.
Mewn partneriaeth pum mlynedd newydd gyda brand cydnabyddus InPost, mae gan DLL bellach loceri yn Hamdden Dinbych, Hamdden Rhuthun, X20 Llanelwy, Theatr Pafiliwn y Rhyl, yn ogystal â’u Prif Swyddfa yn Nhrem y Dyffryn, Dinbych.
Mae loceri InPost yn ffordd ddiogel o anfon neu gasglu parseli ac mae DLL yn falch iawn o fod yn gweithio gyda brand mor ddibynadwy i ddarparu gwasanaeth newydd sbon i’w aelodau.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Yn DLL rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd arloesol o ddatblygu a gwella profiad ein cwsmeriaid. Gyda chymaint ohonom yn byw bywydau eithriadol o brysur, mae dod â’n partneriaeth InPost newydd i nifer o’n cyfleusterau yn golygu y bydd cwsmeriaid yn gallu casglu ac anfon parseli pryd bynnag y bydd yn gweithio iddyn nhw.”
Mae’r lansiad newydd hwn yn dilyn partneriaeth DLL â Costa, gan roi cyfle i gwsmeriaid ymarfer yn eu campfeydd, ymweld â’r theatr, bachu costa a phostio eu parseli, mewn un cam hawdd.
Ychwanegodd Jamie: “Gyda Costa hefyd ar gael mewn llawer o’n cyfleusterau, gall cwsmeriaid fachu coffi, a phostio eu parseli ar eu ffordd i neu o’r theatr, y gampfa, dosbarthiadau neu wersi nofio, ac felly torri lawr ar deithiau ychwanegol! Gyda’r bartneriaeth newydd hon yn ei lle, mae DLL ar ei ffordd i ddod yn ddarparwr un stop i bawb!”




