DLL yn parhau i fuddsoddi yn Hamdden Prestatyn gydag agoriad cae 3G newydd
Mae cae 3G newydd sbon wedi’i agor yn Hamdden Prestatyn, gan barhau â buddsoddiad DLL yn Hamdden Prestatyn.
Mae Hamdden Prestatyn, rhan o bortffolio ffitrwydd ac antur DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf), wedi agor y cae 3G newydd i’w archebu gan y gymuned a’i ddefnyddio gan yr ysgol uwchradd leol.
Mae’r arwyneb synthetig 3G newydd wedi’i osod ar safle’r cae pob tywydd presennol ac mae’n disodli’r system dywodlyd flaenorol. Mae’r arwyneb 3G newydd yn efelychu teimlad glaswellt naturiol yn well, sy’n arbennig o fuddiol ar gyfer chwaraeon fel pêl-droed.
Ariannwyd y datblygiad newydd gan Hamdden Sir Dinbych Cyf a Chwaraeon Cymru fel rhan o brosiect Hamdden Prestatyn.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant yr arwyneb 3G newydd, ac mae’n wych gweld bod y cae eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth gan sawl tîm pêl-droed iau lleol gyda’r nos, yn ogystal â disgyblion Ysgol Uwchradd Prestatyn yn ystod y dydd.
“Mae’r cyfleusterau dan do newydd yn Hamdden Prestatyn eisoes wedi trawsnewid y safle hamdden a’r cwricwlwm Addysg Gorfforol yn yr ysgol ac maent hefyd wedi cyflwyno cynnig ffitrwydd newydd cyffrous i’r gymuned leol. Mae gennym newyddion cyffrous pellach ynghylch ffitrwydd iau yn y cyfleuster yn dod yn fuan iawn, felly cadwch lygad ar ein sianeli cymdeithasol dros yr ychydig wythnosau nesaf.”
Mae Hamdden Prestatyn eisoes wedi gweld lansiad nifer o gyfleusterau newydd cyffrous, gan gynnwys Clip N’ Climb, profiad dringo a bowldro newydd gwych, IGames, cwrt sboncen ryngweithiol ddigidol, a stiwdio Prama, profiad ffitrwydd digidol ‘cyntaf yng Nghymru’.
