Mae Hamdden Sir Ddinbych yn falch o gyhoeddi bod saith o’i safleoedd hamdden – Canolfan Hamdden Huw Jones Corwen, Hamdden Rhuthun, Hamdden Llangollen, Clwb Dinbych, X20 Llanelwy, Clwb y Rhyl, Nova Prestatyn – wedi cymryd rhan lwyddiannus yn yr “Her Tri Dewi” genedlaethol a drefnwyd gan Triathlon Cymru, i ddathlu’r wythnos yn arwain at Ddydd Gŵyl Dewi Sant.
 
Dechreuodd yr her genedlaethol ddydd Llun, 23ain Chwefror, tan Ddydd Gŵyl Dewi, gan annog aelodau hamdden ledled Cymru i gofnodi gymaint o bellter â phosib gan ddefnyddio peiriannau pellter yn y gampfa. Cofnododd gyfranogwyr eu gweithgareddau ar gyfarpar megis beiciau, pyllau nofio, peiriannau sgio, peiriannau rhedeg, a pheiriannu rhwyfo.
 
Gweithiodd Canolfan Hamdden Huw Jones Corwen, Hamdden Rhuthun, Hamdden Llangollen, Clwb Dinbych, X20 Llanelwy, Clwb Rhyl, Nova Prestatyn i gyd gyda’i gilydd gan gyflawni dros 1,000km trwy gydol yr her.
 
Gyda’i gilydd, cofnododd y saith safle bellter anhygoel o 1,151.42km dros y saith diwrnod, gan arddangos cyfranogiad cymunedol gwych, ac ymrwymiad i iechyd a lles. Arweiniodd Glwb y Rhyl y ffordd, gan gofnodi’r cyfraniad mwyaf, gyda 554.62km.
 
Meddai Amy Jenner, Pennaeth Datblygu Triathlon Cymru: “Crëwyd yr Her Tri Dewi i ysbrydoli cymunedau ledled Cymru i fod yn egnïol, a dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy chwaraeon a symud. Rydym yn falch o weld gymaint o ymgysylltiad gan Hamdden Sir Ddinbych a’i aelodau, gyda’u brwdfrydedd ac ymrwymiad wir yn cwmpasu ysbryd yr her.”
 
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych: “Rydym yn falch iawn o’r ymdrechion gan ein haelodau a’n timau ar draws saith safle Hamdden Sir Ddinbych. Mae Her Tri Dewi wedi bod yn gyfle gwych i ddod â chymunedau ynghyd, hyrwyddo ffordd iach o fyw, a dathlu balchder yn yr wythnos yn arwain at Ddydd Gŵyl Dewi. Mae cyfanswm y pellter a gyflawnwyd yn amlygu brwdfrydedd ac ymrwymiad ein haelodau i wella eu hiechyd a’u lles.