Stiwdio ffitrwydd 360 arloesol y cyntaf o’i math yng Nghymru yn dod i Glwb y Rhyl
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn dod â’r stiwdio ‘gyntaf yng Nghymru’ i’w bortffolio llwyddiannus, gan ei chyflwyno yng Nghlwb y Rhyl fis nesaf.
Unwaith eto mae HSDd yn mynd yn groes i’r duedd genedlaethol wrth greu un o’r clybiau ffitrwydd mwyaf arloesol a chyffrous yn y wlad. Bydd y stiwdio ffitrwydd arloesol newydd sbon hon yn rhoi profiad digidol 360 gradd i aelodau ffitrwydd, gan chwyldroi’r rhaglen dosbarthiadau a darparu stiwdio hyfforddi unigryw o’r radd flaenaf.
Mae Hamdden Sir Ddinbych yn cydweithio gyda Future Studios i ddod a phrofiad arloesol a fydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn mynd â’r rhaglen Ymarfer Grŵp i lefel hollol newydd.
Fe’i cyflwynir trwy Fframwaith Hamdden y DU, a reolir gan Hamdden Sir Ddinbych ac Alliance Leisure, bydd yr adnodd iechyd a lles arloesol yn cynnig profiadau cynhwysol, dwys i ymgysylltu ac ysbrydoli aelodau ffitrwydd.
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd, Jamie Groves: “Mae hwn yn amser cyffrous iawn i Hamdden Sir Ddinbych, wrth gyhoeddi stiwdio newydd yng Nghlwb y Rhyl gan sỳmud hyfforddiant gêr yn uwch a bydd yn mynd â’r rhaglen ffitrwydd dosbarth i lefel arall, gan dorri cwys newydd gyda syniadau newydd yng ngwir arddull HSDd. Yn HSDd, rydym bob amser yn rhoi ein haelodau yn gyntaf, ac mae’n gwneud synnwyr buddsoddi mewn rhaglen ymarfer i grwpiau a dod â datblygiad stiwdio newydd sbon i Sir Ddinbych – a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru. Rydym wrth ein boddau i gael gweithio gyda Joe a’i dîm yn Future Studios ar y prosiect hwn. Mae’r dechnoleg yn anhygoel, gyda phrofiad heb ei ail, nid oes stiwdio debyg i hon unrhyw le arall yng Nghymru! Dewch i’n hwythnos agored i gael ei gweld!”
Dywedodd Joe Robinson, cyd-sylfaenydd Future Studios a chyfarwyddwr creadigol yn Flareform: “Rydym wedi gwirioni cael cydweithio gyda HSDd wrth i ni gychwyn ar y siwrnai hon i gyflwyno profiadau newydd sbon i’r aelodau. O’r cyswllt cyntaf un, bu’n amlwg ein bod yn gweithio gyda chleient sy’n rhannu ein hangerdd dros arloesi a rhagoriaeth. Mae eu brwdfrydedd tuag at y prosiect hwn yn heintus ac ysbrydoledig, ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â’n gweledigaeth greadigol ar gyfer y cynnyrch. Rydym wir yn teimlo’n freintiedig i fod yn rhan o’r bartneriaeth hon ac ni allwn aros i weld y canlyniadau anhygoel y byddwn yn eu cyflawni gyda’n gilydd.”
Fel gweithredwr hamdden blaengar, mae HSDd yn buddsoddi’n barhaus yn ei gyfleusterau ffitrwydd er mwn darparu’r profiadau gorau un i’w gwsmeriaid.
Yn ystod camau cyntaf trawsnewid Hamdden y Rhyl crëwyd mynedfa newydd ar y llawr gwaelod; a ‘gorsaf Ail-lenwi’ unigryw yn y gampfa yn cynnig Costa a detholiad o ysgytlaeth a byrbrydau maethlon, fydd yn unigryw i’n haelodau ffitrwydd. Bydd wythnos gyhoeddi Stiwdio 360 yn rhoi cyfle i aelodau ymweld â Chlwb y Rhyl, cael profiad o’r stiwdio, cael ymgynghoriad am ddim gyda’n harbenigwyr ffitrwydd a Choffi Costa am ddim yn y caffi ail-lenwi newydd. Trefnwch eich ymgynghoriad am ddim yn ystod wythnos 16 Hydref ar ap Hamdden Sir Ddinbych. Anogir aelodau presennol i ddod â ffrind am ddim i un o’r dosbarthiadau!