Gweithiwr Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig yn dechrau ar daith ei breuddwydion i wersyll cychwyn Everest
Roedd cydweithwyr yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o ddymuno’r gorau i hyfforddwr nofio Canolfan Hamdden y Rhyl, Monika Kurlandt, yn gynharach yr wythnos hon wrth iddi deithio i Nepal, a dringo i wersyll cychwyn Everest.
Mae Monika yn heiciwr a dringwr brwd, ac mae wedi breuddwydio erioed am weld Mynyddoedd Himalaia un diwrnod, ac mae ei breuddwyd ar fin cael ei gwireddu o’r diwedd. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Monika wedi heicio’n helaeth ar hyd a lled y DU, yn enwedig yn Eryri ac Ardal y Llynnoedd, ac roedd hi’n teimlo ei bod yn barod i wynebu un o’r heriau dringo mwyaf cyffrous.
Fel hyfforddwr ffitrwydd cymwys, sicrhaodd Monika ei bod wedi paratoi’n drylwyr ar gyfer y daith, gan weithio’n galed yn y gampfa i gryfhau ei choesau, ei chraidd a rhan uchaf ei chorff. I baratoi ar gyfer ei thaith, bu hi’n heicio am hyd at 6-8 awr ar y tro dros y penwythnosau.
Monika yw ail weithiwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf i ymweld â Mynyddoedd Himalaia. Dringodd yr hyfforddwr ffitrwydd, Kieran Davenport, i’r gwersyll cychwyn ym mis Tachwedd 2022 hefyd, i gefnogi elusen leol, a dywedodd fod y daith yn brofiad unwaith mewn oes.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr, “Mae gennym dîm arbennig yma yn Hamdden Sir Ddinbych Cyf, ac rwyf bob amser yn falch iawn wrth glywed am eu llwyddiannau anhygoel. Yn eu rolau proffesiynol, mae ein staff wedi ymrwymo i helpu eraill i gyrraedd eu nodau ffitrwydd personol, felly mae’n wych eu gweld yn cyrraedd eu nodau eu hunain. Rydym yn dymuno’n dda i Monika ar ei thaith, ac yn edrych ymlaen at glywed yr hanes pan ddaw hi’n ôl!”