Mae gan DLL rywbeth i bawb y Pasg hwn, gyda llu o ddigwyddiadau ar draws eu bwytai a’u hatyniadau ar draws Sir Ddinbych.

Mae digwyddiadau hwyl ar y gweill gan gynnwys Parti Pasg enwog y Cwt Traeth yn Nova, helfa Wyau Pasg yn Ninja TAG SC2, chwarae meddal antur a chwarae meddal antur Nova, wal ddringo Hamdden Prestatyn a’r iGames cyffrous, hefyd yn Hamdden Prestatyn, a’r Pantomeim Pasg hynod boblogaidd yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.

Mae yna hefyd noson gerddoriaeth Acwstig fyw ym mwyty 1891 gyda Kyle Parry a’r cynnig bwyd newydd o 20% oddi ar eich bil gyda’r ‘dyddiau aur’ ym mwyty 1891, gan sicrhau bod rhywbeth i bawb fwynhau a dathlu’r Pasg gyda DLL.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wrth ein bodd yn cynnal cymaint o ddigwyddiadau ar draws safleoedd DLL y Pasg hwn, gyda gweithgareddau i’r teulu cyfan eu mwynhau! Mae rhywbeth at ddant pawb i’w cadw’n brysur dros benwythnos y Pasg a gwyliau ysgol. Dim ond y dechrau yw hyn ar ein cynllun digwyddiadau cyffrous ar gyfer y flwyddyn ac ni allwn aros i ddathlu gyda chi’r mis hwn!

Mae gan SC2 gynlluniau hwyl y Pasg hwn gyda ‘Herio’r Bwni Pasg’ yn Ninja TAG, yn annog pobl i gyrraedd brig y sgorfwrdd, a draw yn Chwarae Antur bydd helfa wyau dinosoriaid yn rhoi cyfle i blant ennill wyau Pasg. Gyda lleoedd yn llenwi’n gyflym, anogir teuluoedd i archebu ar-lein yn gynnar i osgoi cael eu siomi.

Mae Theatr Pafiliwn y Rhyl yn croesawu cast serennog y pantomeim Pinocchio i’r llwyfan ar gyfer y Panto Pasg poblogaidd. Gyda chast cryf, mae tîm y Swyddfa Docynnau yn cynghori teuluoedd i archebu ymlaen llaw ar gyfer y seddi gorau.

Mae Cwt y Traeth yn Nova Prestatyn hefyd yn cynnal diwrnod hwyl ‘wy-tastig’ i’r plant, gyda phaentio wynebau, adloniant I’r plant a llawer o ddanteithion Pasg yn y ffatri hufen iâ!

I gael rhagor o wybodaeth am strafagansa Pasg DLL, edrychwch ar dudalen Facebook DLL