Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) ar y rhestr fer am bum gwobr genedlaethol
Mae DLL wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol ac wedi cyrraedd y rhestr fer am 5 gwobr fawreddog yr Hydref hwn.
Mae’r cwmni yn y ras am nifer o wobrau yng ngwobrau cenedlaethol UKActive, a fydd yn cael ei gynnal ym mis Hydref, am y gwaith y mae’r busnes yn ei wneud o fewn y diwydiant ffitrwydd.
Mae UKActive yn gymdeithas ddiwydiannol ddi-elw, sy’n hyrwyddo buddiannau campfeydd ffitrwydd masnachol a chanolfannau hamdden cymunedol, gyda mwy na 4,000 o sefydliadau yn aelodau ledled y DU.
Mae’r categorïau y mae DLL wedi cael ei rhoi ar y rhestr fer ynddynt yn cynnwys: Gwobr sefydliad arloesol, dwy wobr ymgyrch farchnata, gwobr arweinyddiaeth unigol ragorol a gwobr tîm arweinyddiaeth rhagorol.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wrth ein bodd yn cael ein cydnabod unwaith eto yng ngwobrau UKActive; y tro hwn, am bum gwobr. Mae’n wych gweld cwmni o Sir Ddinbych yn cael ei gydnabod yn genedlaethol am yr holl waith caled ledled y busnes, ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein henwebu am bum gwobr, sy’n cymeradwyo cwmni cryf a chyflawn ar bob lefel. Rwy’n hynod falch o’r gwaith rhagorol y mae DLL wedi’i arwain yn ddiweddar a thros y 10 mlynedd diwethaf. Mae gwaith caled, penderfyniad ac ymroddiad yr holl weithlu yn DLL wedi ein helpu i gyrraedd lle’r ydym heddiw ac rwy’n ddiolchgar iawn am eu holl gefnogaeth, yn enwedig ers lansio’r cwmni yn 2020. Fel cwmni, ein gwerthoedd, ein hymroddiad a’n hansawdd sy’n ein gwneud ni sefyll allan, ac mae’n wych ein gweld ni’n cael ein cydnabod am y rhain. Mae bob amser yn fwy na dim ond swydd i’n gweithlu sydd bob amser yn mynd yr ail filltir.”