Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) yn falch iawn o gyhoeddi’r enwebeion ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Cymunedau Bywiog DLL 2024, dathliad mawreddog o gyflawniadau rhagorol o fewn y gymuned drwy chwaraeon, gweithgareddau, celfyddydau, a diwylliant dros y flwyddyn ddiwethaf.

Jason Mohammad, seren radio a theledu Cymru a chyflwynydd Final Score BBC One, fydd yn cynnal y noson hwn sy’n argoeli i fod yn un fythgofiadwy.

Cynhelir y seremoni wobrwyo, a noddir gan Lockstock Storage, ar nos Fercher, 13eg  Tachwedd yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, a bydd yn cydnabod ac yn anrhydeddu unigolion, ysgolion, clybiau a phrosiectau sydd wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol yn eu cymuned. O hyfforddiant arbennig i brosiectau celfyddydol ysbrydoledig, mae’r gwobrau hyn yn amlygu’r rhai sydd wedi cyfrannu at greu cymuned iachach, fwy egnïol ac sydd wedi’i chyfoethogi’r gymuned yn ddiwylliannol.

Mae unigolion, clybiau, elusennau, grwpiau ac ysgolion o bob rhan o Sir Ddinbych wedi cyrraedd y rhestr fer, ac i gyd yn dod at ei gilydd i ddathlu’r gwaith anhygoel sy’n digwydd ar draws y sir.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL): “Rydym yn hynod falch o’r unigolion a’r sefydliadau dawnus ac ymroddedig ar draws Sir Ddinbych sy’n gweithio’n ddiflino i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau. Mae Gwobrau Cymunedau Bywiog DLL yn taflu goleuni ar y rhai sy’n ein hysbrydoli ni i gyd, boed hynny drwy chwaraeon, creadigrwydd, neu wasanaeth cymunedol. Rydym yn edrych ymlaen at ddathlu’r llwyddiannau hyn gyda’r enwebeion ar y rhestr fer ar noson arbennig iawn.”

I gael y rhestr fer a mwy o wybodaeth am Wobrau Cymunedau Bywiog DLL 2024, ewch i https://denbighshireleisure.co.uk/cy/gwobrau-cb-2024/