Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn enillydd gwobr Arian yng Ngwobrau Cysylltiadau Cyhoeddus Cenedlaethol
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o gyhoeddi eu bod wedi ennill gwobr arian yng Ngwobrau Cenedlaethol mawreddog y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus.
Llwyddodd y cwmni, a lansiodd yn ystod y cyfnod clo ym mis Ebrill 2020, i sicrhau gwobr Arian yng nghategori’r Defnydd Gorau o Gyfryngau Digidol a Chymdeithasol. Gan fod llawer o’u cyfleusterau ar gau am gyfnodau hir llynedd yn ystod y cyfnod clo, gwnaeth Hamdden Sir Ddinbych lawer o ymdrech i ymgysylltu â’u cwsmeriaid a pharhau i ddarparu gwasanaethau trwy ymgyrchoedd ar eu cyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol.
Mae’r gwobrau PRride yn arddangos timau cysylltiadau cyhoeddus ledled Cymru ac yn cydnabod y gwaith rhagorol y maent wedi bod yn ei gyflawni ledled y DU yn ystod y 24 mis diwethaf.
Cynhaliwyd y gwobrau trwy seremoni ar-lein gyda Jason Mohammad yn arwain, a gwelwyd gan nifer o asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus a thimau mewnol y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, gan gynnwys RSPB Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dŵr Cymru, Prifysgol Caerdydd, BBC Wales, BBC Cymru, Gyrfaoedd Cymru, Yr Urdd a The Royal Mint.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydyn ni wedi plesio’n fawr am fod yn llwyddiannus yn y gwobrau mawreddog hyn a bod ein llwyddiant wedi cael ei ddathlu ar raddfa genedlaethol. Mae’r tîm wedi gweithio’n ddi-ffael dros y 18 mis diwethaf i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd, cwsmeriaid a’n staff ar draws sawl platfform, gan gynnwys creu brandiau a busnesau newydd; a thrawsnewidiad digidol ein gwasanaethau. Mae’n wych bod yr holl waith caled wedi’i gydnabod gan CIPR. Rydym yn hynod falch o’n brand, a’n swyddogaeth marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus. ”