HSDd ac elusen leol yn trefnu sesiwn am ddim i 200 o bobl ddigartref ym Mharc Dŵr SC2 yn y Rhyl
Mae HSDd wedi cynnig 200 o docynnau am ddim i’r elusen leol Helping Homeless North Wales ar gyfer sesiwn arbennig ym Mharc Dŵr SC2 ddiwedd mis Mehefin.
Bydd y Grŵp Cymunedol yn dosbarthu’r tocynnau i bobl ddigartref mewn tair o siroedd yng ngogledd Cymru i roi’r cyfle iddynt gael noson o hwyl, ymlacio a chreu atgofion melys yn yr atyniad poblogaidd hwn.
Mae Helping Homeless North Wales yn gweithio â sefydliadau i bobl ddigartref ledled gogledd Cymru, gan gynnwys Tîm Atal Digartrefedd Sir Ddinbych, ac fe gysyllton nhw â HSDd i drafod cydweithio ar ymweliad posib ag SC2. Buont eisoes yn cydweithio yn 2023 i gynnal digwyddiad tebyg i deuluoedd digartref yn y Rhyl. Neidiodd HSDd am y cyfle i helpu gan gynnig 200 o docynnau am ddim i’r elusen.
Bydd parc dŵr SC2 yn ail-agor ar 5 Gorffennaf ar ôl bod ar gau ers tro wedi i stormydd ddifrodi’r to, a phan gyhoeddodd HSDd yn ddiweddar y cynhelid sesiynau blasu am ddim i bobl leol, fe werthodd pob un o’r tocynnau mewn llai na hanner awr.
Meddai Richard Kendrick o Helping Homelessness North Wales: “Diolch o galon i HSDd am eu cefnogaeth fendigedig. Roedd y digwyddiad yn 2023 yn anhygoel. Fe gafodd cymaint o deuluoedd amser gwych. Dwi’n gwybod sut mae hynny’n rhoi hwb i deuluoedd sy’n wynebu bod yn ddigartref. Mae’n gwneud lles i iechyd meddwl a ffyniant y plant. Cael cyfle i ddod allan o’r sefyllfa am awr neu ddwy a chwarae mewn lle mor fendigedig. Mae’n golygu cymaint inni fod cwmni lleol yn cefnogi ein gwaith ni. Allwn i ddim diolch digon i Jamie a’i dîm. Dwi’n gallu gweld y wên ar wynebau’r plant yn barod!”
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd: “Mae mwy o bobl yn ddigartref yng Nghymru nag erioed o’r blaen ac mae hynny’n cael effaith aruthrol ar fywydau plant, nid yn unig yn yr ysgol ond o ran cyfleoedd i chwarae, cael hwyl a chymryd rhan mewn chwaraeon. Rydyn ni wedi cynnig hyd at 200 o docynnau Parc Dŵr SC2 i’w rhannu efo teuluoedd digartref i roi cyfle iddynt ddod i dreulio noswaith hwyliog efo ni, a chreu atgofion efo’u teuluoedd! Pan mae’r esgid yn gwasgu, mae diwrnodau fel hyn yn eithriadol o bwysig i greu atgofion, felly rydyn ni’n falch o gynnig y 200 o docynnau am ddim ac yn gobeithio gallu cydweithio eto yn y dyfodol. Mae SC2 a HSDd yma i’r gymuned gyfan, ac rydyn ni’n awyddus i gymaint o bobl a phosib ddod i fwynhau’r hwyl!”