Mae dros hanner biliwn o bunnoedd y flwyddyn mewn manteision iechyd a chynhyrchiant yng Nghymru wedi cael eu nodi mewn adroddiad a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Fe dynnodd yr adroddiad sylw at werth economaidd ymgysylltu â’r celfyddydau yng Nghymru, ynghyd â’r effaith ar iechyd a lles. Mae tîm Celfyddydau Cymunedol HSDd yn falch o gyfrannu at hyn drwy ddarparu nifer o brosiectau ar draws Sir Ddinbych i gefnogi iechyd a lles ledled y Sir.

Mae tîm Celfyddydau Cymunedol HSDd yn gweithio mewn partneriaeth gyda BIPBC ar nifer o brosiectau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, yn cynnwys un sy’n darparu ymyraethau creadigol i oedolion sydd â heriau iechyd meddwl drwy raglen Cysgod Rhag y Glaw.  Mewn partneriaeth â gwasanaethau Cymorth Cynnar Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc Canolog, bydd prosiect hefyd yn dechrau yn ysgolion Sir Ddinbych yn fuan.  Fe fydd y prosiect yn dechrau yn Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Christchurch, cyn symud i Ysgol Uwchradd Prestatyn ac Ysgol Bryn Hedydd, a’r nod yw cefnogi iechyd a lles disgyblion.  Gydag arian Celfyddydau mewn Iechyd Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’r tîm hefyd wedi bod yn cyflwyno rhaglen o weithdai wedi’u llywio gan drawma gyda theuluoedd wedi’u hadsefydlu a cheiswyr lloches yn Sir Ddinbych.

Yr adroddiad, o’r enw Asesu Effaith Economaidd y Celfyddydau ar Iechyd a Gwasanaethau Gofal Iechyd yng Nghymru, yw’r astudiaeth Cymru gyfan cyntaf sydd yn asesu effaith y celfyddydau ar iechyd, lles a hefyd y galw ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol.  Daeth yr adroddiad i’r casgliad bod buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu £11.08 mewn manteision iechyd, lles a chynhyrchiant am bob £1 sy’n cael ei fuddsoddi, sy’n arwain at tua £588 miliwn y flwyddyn mewn manteision iechyd a chynhyrchiant ledled Cymru. 

Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych: “Mae’r celfyddydau yn parhau i ddarparu manteision iechyd sylweddol i bobl, ac rydym ni’n falch o weld fod y dystiolaeth gadarn i brofi hynny yn cynyddu.  Drwy ein tîm Celfyddydau Cymunedol rydym ni’n gwneud cyfraniad pwysig i les preswylwyr yn Sir Ddinbych, ac rydym ni’n falch iawn bod HSDd yn parhau i ddarparu’r gwaith hollbwysig yma yng ngogledd Cymru.”

 Mae’r tîm Celfyddydau Cymunedol hefyd yn cydweithio ar brosiectau rhwng cenedlaethau sydd yn cefnogi iechyd a lles, yn cynnwys grŵp canu cymunedol wythnosol yn Llanrhaeadr mewn partneriaeth â Chanolfan Gerdd William Mathias a phrosiect ysgolion gydag Ysbytai Cymunedol Rhuthun a Dinbych. Yn ne’r sir, mae prosiect ar y gweill o’r enw Afon Atgofion mewn partneriaeth â Phartneriaeth Cymunedol De Sir Ddinbych, Canolfan Ni, Pengwern, ysgolion lleol a chartrefi gofal.