Dathlwch yr haul gyda DLL y penwythnos hwn wrth ‘sipian i’r Haf’ gyda chynigion bwyd a diod yn Y Rhyl a Phrestatyn.

Mae’r tywydd yn cynhesu ac mae DLL gyda phenwythnos o hwyl a bwyd a diod fendigedig ar y gweill ar eich cyfer chi.

Mae’r Pad Sblasio awyr agored yn SC2 yn le perffaith i gwlio lawr, gadael i’r rhai bach defnyddio’u hegni a gorffwys gyda diod (neu ddwy!). Argymhellir archebu ymlaen llaw i osgoi siom.

Gyda disgwyl i Ogledd Cymru fod yn boethach nag Ibiza y penwythnos hwn, mwynhewch yr haul ar Deras 1891 gyda chynigion bwyd a diod cyffrous, gan gynnwys pitsa a prosecco neu pitsa a bwced o gwrw am £19.95 yn unig, yn 1891 Y Rhyl.

Gorffwyswch yn y Cwt Traeth, Nova, ardd gwrw anhygoel Gogledd Cymru, gyda dau am bris un ar holl goctels, a mesur dwbl am bris mesur sengl ar bob gwirod.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae’r penwythnos hwn yn debygol o fod yn boeth iawn, felly pa le gwell i fod nag wrth y môr gyda choctel yn eich llaw. Mae gan y Cwt Traeth, Nova yr ardd gwrw orau yng Ngogledd Cymru ac mae gan Deras 1891 olygfeydd o arfordir y Gogledd-orllewin cyfan, does dim angen i chi fynd dramor i deimlo’r awyrgylch. Welwn ni chi yno!