Mae DLL (Denbighshire Leisure Ltd) a Simply Logo Ltd wedi dod at ei gilydd i lansio ymgyrch newydd sbon i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ar gyfer eu staff a’u cwsmeriaid.

Mae Simply DLL ‘#simplybekind’ yn bartneriaeth newydd sbon rhwng DLL a chwmni Simply Logo Ltd o’r Rhyl, sy’n canolbwyntio ar ymrwymiad y ddau gwmni i anfon negeseuon cryf a phwerus am iechyd meddwl.

Mae DLL wastad wedi rhoi iechyd meddwl wrth galon y gwaith maen nhw’n ei wneud, felly trwy arddangos calon ‘Simply Be Kind’ ar grysau-t hyfforddwr ffitrwydd DLL, daw’r cyfle perffaith i bobl ddechrau’r sgwrs. Heddiw, dydd Iau 10fed Hydref, sef Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, yw’r amser perffaith i lansio’r ymgyrch hon.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym wastad wedi blaenoriaethu busnesau lleol yma yn DLL, ac yn eu cefnogi lle bynnag y bo modd. Gyda Simply Logo, daethom o hyd i fusnes a oedd hefyd yn rhannu ein gweledigaeth a’n nodau ynghylch hyrwyddo amgylchedd mwy caredig gyda dealltwriaeth lle gallwn ni gyd weithio a byw ynddo. Rydym wastad wedi cydnabod pwysigrwydd amddiffyn ein staff a’u cefnogi, ac mae gennym bolisi dim goddefgarwch o ran sylwadau anghyfiawn neu annheg ar y cyfryngau cymdeithasol wedi’u cyfeirio at ein timau. Teimlwn ein bod, trwy ymuno â’r bartneriaeth newydd hon, yn cymryd cam cyffrous iawn; ymrwymiad pellach i ddangos i bawb pwy a beth sy’n wirioneddol bwysig i ni. Drwy ddod yn adfocadau dros iechyd meddwl cadarnhaol a charedigrwydd tuag at ein gilydd, rydym yn gobeithio gallu rhoi hyder a nerth cadarnhaol i’n staff a chwsmeriaid hefyd. Ynghyd â Simply Logo, rydym wedi creu neges gref a fydd, gobeithio, yn arwain at newid cadarnhaol.”

Dywedodd Nia Wyn-Heaton, Perchennog Simply Logo Ltd: “Cafodd y syniad ar gyfer “Simply Be Kind” ei eni allan o daith bersonol trwy rai cyfnodau anodd. Ar un diwrnod arbennig o anodd, dywedodd ffrind agos rywbeth a’m trawodd yn fawr: “Pam na all pobl fod yn garedig?” Roedd yn deimlad mor syml, ond pwerus, ac arhosodd gyda mi. Wedi fy ysbrydoli, penderfynais argraffu’r ymadrodd ar hwdi, gan ychwanegu calon fach ar y llawes fel symbol o dosturi. Pan wnes i ei wisgo allan un noson gyda ffrindiau, cefais fy syfrdanu gan yr ymateb. Dechreuodd dieithriaid rannu eu straeon eu hunain ac agor i fynnu am eu brwydrau – roedd yn brofiad twymgalon a ddangosodd i mi sut y gall arwydd bach danio cysylltiadau pwysig. Pan rannais y stori y tu ôl i “Simply Be Kind” a’m gweledigaeth ar gyfer y brand gyda Jamie, fe gysylltodd yn syth â’r neges. Teimlai ei fod yn cyd-fynd yn berffaith ag ethos a gwerthoedd DLL ac roedd eisiau cymryd rhan i helpu i hyrwyddo’r mudiad cadarnhaol hwn. Mae’r cydweithio hwn yn enghraifft berffaith o sut y gall gwerthoedd tebyg ddod â phobl a busnesau at ei gilydd i wneud gwahaniaeth.”

Bydd y bartneriaeth yn cael ei chyflwyno drwy safleoedd hamdden DLL, gyda staff yn gwisgo’r logo Simply DLL a chalon ‘Simply Be Kind’ ar eu gwisgoedd gwaith.

Dywedodd Jamie: “Rydym yn annog ein staff ac aelodau i fod yn garedig bob amser pan fyddant yn postio ar-lein yn ogystal ag yn bersonol. Rydyn ni eisiau creu awyrgylch diogel ar ein safleoedd ac ar ein llwyfannau digidol lle gall pobl fod nhw eu hunain heb unrhyw ofn.”

Ychwanegodd Nia: “Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gobeithio creu effaith crychdonni o garedigrwydd, lle gall neges syml ar ddarn o ddillad ysbrydoli newid, sgwrs, a chefnogaeth gymunedol. Oherwydd weithiau, y gweithredoedd lleiaf sy’n gallu cael yr effaith fwyaf. Nid yw “Simply Be Kind” yn ymwneud â’r hyn rydyn ni’n ei wisgo yn unig – mae’n ymwneud â phwy ydyn ni a’r byd rydyn ni eisiau adeiladu.”