Mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn cynnig rhagolwg am ddim o wal ddringo a chlogfeini newydd Hamdden Prestatyn, cwrt sboncen rhyngweithiol digidol a stiwdio ffitrwydd Prama newydd gyda diwrnod ‘cipolwg’ cyffrous.

Ym mis Tachwedd eleni, bydd ail-lansio Hamdden Prestatyn yn gweld waliau dringo a chlogfeini newydd, cwrt sboncen rhyngweithiol digidol ac agoriad stiwdio Prama, profiad ffitrwydd digidol ‘cyntaf yng Nghymru’.

Mae DLL yn cynnig cyfle cyffrous i’r gymuned roi cynnig ar y gweithgareddau newydd AM DDIM a rhoi’r olwg gyntaf i bobl gyda diwrnod agored ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 2il am 10am tan 6pm.

Yn dilyn llwyddiant Nova, fel cyrchfan hamdden premiwm DLL, mae DLL unwaith eto yn mynd yn groes i’r duedd genedlaethol ac yn buddsoddi mewn canolfan antur newydd a chyfleusterau ffitrwydd iau.

Bydd Hamdden Prestatyn yn mynd â hyfforddiant i lefel newydd gyda stiwdio ffitrwydd ryngweithiol Prama newydd sbon, gan chwyldroi’r rhaglen ffitrwydd iau a chyflwyno cwricwlwm arloesol i fyfyrwyr. Y gyntaf o’i fath yng Nghymru, mae Prama yn gysyniad ymarfer grŵp trochi a rhyngweithiol lle mae sain, goleuadau, lloriau a waliau yn dod yn fyw i’ch ysgogi a’ch arwain trwy brofiad hyfforddi unigryw. Bydd y dechnoleg newydd ar y safle hefyd yn gweld profiad sboncen trochi, gan ddod â’r gamp hwn i gyfnod newydd a’i gwneud yn hygyrch i bawb. Mae profiad dringo Clip a Dringo hefyd yn agor yn Hamdden Prestatyn, gan ychwanegu atyniad newydd at bortffolio helaeth DLL o anturiaethau cyfeillgar i deuluoedd.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Unwaith eto, rydym yn buddsoddi yn y genhedlaeth nesaf gyda’r dechnoleg ddigidol orau i arloesi ffitrwydd i’r rhai iau. Bydd y stiwdio Prama newydd yn mynd ag Addysg Gorfforol a hyfforddiant ffitrwydd i’r lefel nesaf, gan greu profiad ffitrwydd digidol sy’n llawn rhyngweithio ac ymgysylltu i bob oed. Bydd y buddsoddiad newydd hwn yn dod â Hamdden Prestatyn i gyfnod newydd, gan ddangos ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn arloesedd. Yn dilyn llwyddiant Nova fel atyniad, gan gynnwys Clwb Nova, Cwt y Traeth a’n Chwarae Antur, rydym yn falch o ddod a mwy o brofiadau chwarae a hamdden i Brestatyn. Fel cwmni lleol rydym unwaith eto yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu profiadau hamdden o safon i’r gymuned a’r cwricwlwm addysg gyda’r hwb rhyngweithiol cwbl newydd hwn i bobl ifanc. Yn ogystal â’r datblygiadau newydd hyn sydd ar gael i’w defnyddio o’r 2il o Dachwedd, rydym yn gobeithio cyhoeddi cam dau o’r datblygiadau ar gyfer Hamdden Prestatyn yn fuan iawn.”

Dywedodd Neil Foley, Pennaeth Ysgol Uwchradd Prestatyn: “Rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o fuddsoddiad nesaf DLL, bydd y prosiect hwn yn wirioneddol chwyldroi’r rhaglen Addysg Gorfforol, moderneiddio’r cwricwlwm a mynd â hyfforddiant ffitrwydd i lefel newydd. Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â DLL i fod yr ysgol uwchradd gyntaf a’r unig ysgol uwchradd yng Ngogledd Cymru gyda stiwdio Prama, ac ni allwn aros i’r gwaith ddechrau ar hyn yn fuan. Bydd hyn ynghyd â’r waliau dringo newydd a sboncen rhyngweithiol yn ychwanegu dimensiwn cymhleth newydd a chyffrous i Ysgol Uwchradd Prestatyn ar gyfer disgyblion y presennol a’r dyfodol.”

Yn ogystal â’r dechnoleg newydd a’r cynlluniau antur newydd cyffrous, bydd Hamdden Prestatyn hefyd yn gosod gorsaf Ail-lenwi DLL newydd ac ardal i gwsmeriaid ymlacio sy’n gweini coffi Costa a byrbrydau.