Mae DLL yn falch o gyhoeddi bod y cyngerdd Nadolig rhad ac am ddim blynyddol yn ôl yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.

Bob blwyddyn, mae DLL (Hamdden Sir Ddinbych Cyf) yn ymuno â Chyngor Tref y Rhyl i ddod â hwyl y Nadolig i’r gymuned gyda noson o adloniant byw yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.

Mae’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn argoeli i fod yn noson wych, llawn talent a gyda rhaglen wych wedi’i threfnu ar ddydd Sul, 24 Tachwedd am 5pm.

Yn ôl y galw poblogaidd mae Mav Mac – yn fwyaf adnabyddus am eu sain unigryw a’u hegni uchel. Bydd y gynulleidfa hefyd yn cael y pleser o wrando ar fand Make Some Noise sy’n cynnwys cerddorion proffesiynol, cyfansoddwyr a chantorion o’r North Wales Music Cooperative gyda’r telynor o fri rhyngwladol Dylan Cernyw, y mezzo-soprano Sioned Terry, enillydd Can i Gymru 2024 Sara Davies, a cherddorion a chynhyrchwyr o fri Matty Roberts a Wyn Pearson.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn falch iawn o fod yn bartner gyda Chyngor Tref y Rhyl i gynnig penwythnos o adloniant am ddim i deuluoedd yn y Rhyl. Yn DLL, rydym wedi ymrwymo i gynnal adloniant am ddim i’r gymuned ei fwynhau trwy gydol y flwyddyn ac mae ein cyngerdd Pops Nadolig bellach yn dod yn draddodiad blynyddol i lawer! Mae’n ffordd berffaith i gychwyn dathliadau’r Nadolig!”

Dywedodd Maer y Rhyl, y Cynghorydd Cheryl Williams am y Pops ‘Dolig: “Wrth i’r Nadolig agosáu, gallwn edrych ymlaen unwaith eto at y Pops ‘Dolig yn ôl yn Theatr y Pafiliwn y Rhyl, gan roi’r cyfle i’r gymuned brofi noson fendigedig o adloniant, mae’n ‘rhad ac am ddim i bawb’. Diolch i Hamdden Sir Ddinbych Cyf am drefnu’r digwyddiad gwych hwn y mae Cyngor Tref y Rhyl yn falch o’i gefnogi’n ariannol bob blwyddyn. Mae’n siŵr y bydd galw mawr am docynnau felly archebwch eich seddi’n gynnar i osgoi cael eich siomi. Mae’r noson yn ffordd berffaith o ddod â’r gymuned ynghyd wrth i ddathliadau’r ŵyl agosáu.”

Bydd y tocynnau ar gael o bore dydd Mawrth 29ain Hydref drwy ffonio Swyddfa Docynnau Pafiliwn y Rhyl ar 01745 330000 a bydd yn gyfyngedig i bedwar tocyn i bob cartref. Bydd y drysau’n agor o 4pm, gan roi cyfle i fynychwyr cyngherddau fachu diod cyn i’r cyngerdd ddechrau am 5pm.