Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd ddydd Mercher 2 Ebrill, ac i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r digwyddiad pwysig hwn, mae DLL yn falch o rannu manylion y sesiynau cynhwysol awtistiaeth a gynigir yn eu rhaglen.

Gyda nifer o sesiynau hynod boblogaidd ar gyfer anabledd ac awtistiaeth eisoes yn digwydd ar draws ei safleoedd, bydd DLL yn ymestyn ei amserlen ymhellach i gynnwys y sesiynau Clip a Dringo ac iGames newydd hwyliog a gynigir yn ei brofiad ffitrwydd iau a lansiwyd yn ddiweddar yn Hamdden Prestatyn. Disgwylir i’r sesiynau hyn ddechrau ddiwedd y gwanwyn, a bydd mwy o fanylion ar gael ar sianeli cymdeithasol DLL yn fuan iawn.

Mae DLL eisoes yn cynnig sesiynau chwarae antur cyfeillgar i anabledd ac awtistiaeth yn ei ardaloedd chwarae dan do yn SC2 a Nova, Prestatyn, a sesiynau cyfeillgar i awtistiaeth yn ei atyniad Ninja Tag yn SC2 y Rhyl. Mae pob un wedi’i gynllunio i ddarparu ar gyfer plant sydd yn ffafrio amgylchedd mwy hamddenol, gyda llai o oleuadau llachar, dim cerddoriaeth, a chyfyngiadau ar niferoedd.

Gydag atyniad blaenllaw DLL, Parc Dŵr SC2, yn ailagor yr haf hwn, mae cynlluniau eisoes ar waith i ddychwelyd y sesiynau parc dŵr poblogaidd sy’n gyfeillgar i awtistiaeth sydd unwaith eto’n cynnwys amgylchedd tawelach, gyda llai o gyhoeddiadau tannoy a dim ond sleidiau dethol yn rhedeg. Mae SC2 yn safle cwbl hygyrch, ac yn cynnwys pentref newid, gyda chawodydd, gwely newid, a theclyn codi.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr DLL, Jamie Groves ‘Mae ein timau’n gweithio’n galed yn DLL i gyflwyno rhaglenni sy’n darparu rhywbeth i bawb, ac mae yna wastad alw mawr am ein sesiynau cyfeillgar i anabledd ac awtistiaeth yn SC2 a Nova. Rydym wedi datblygu dull tebyg ar draws ein portffolio, gyda Perfformiad Hamddenol o’n panto Nadolig yn Theatr y Pafiliwn, gan ein bod yn gwybod bod llawer o bobl yn gallu gweld y profiad theatr yn llethol. Gyda Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yn cael ei gynnal ar 2 Ebrill, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn ymestyn ein rhaglen i gynnwys sesiynau Clip a Dringoac iGames anabledd ac awtistiaeth ym Mhrestatyn, ac yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gadw llygad ar ein sianeli cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf.”