Mae DLL yn falch o gefnogi dros 20 o berfformiadau byw lleol
Mae DLL yn parhau i gefnogi gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol yng nghynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda 21 o ddigwyddiadau Noson Allan yn digwydd ledled Sir Ddinbych dros y flwyddyn ddiwethaf.
Fel rhan o’r rhaglen gymunedol boblogaidd hon, mae 1419 o bobl wedi mynychu perfformiad lleol ar draws y 21 digwyddiad, gyda dros hanner y perfformiadau hyn yn cael eu cyflwyno yn y Gymraeg.
Mae cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi gwirfoddolwyr o grwpiau cymunedol sydd eisiau dod â chelfyddydau byw i’w lleoliadau lleol. Gall grwpiau cymunedol ddewis o ystod eang o berfformwyr proffesiynol gwych a’u rhoi ymlaen mewn mannau lleol a lleoliadau anhraddodiadol eraill ledled y wlad. Mae’r perfformiadau’n cwmpasu llawer o ffurfiau celf o theatr a syrcas i bypedwaith, cerddoriaeth o bob math, dawnsn ac adrodd straeon.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae ‘Ein Cymuned’ yn un o bileri DLL, ac mae ein tîm Cymunedau Bywiog yn gweithio’n galed i hyrwyddo cyfranogiad mewn gweithgareddau sy’n gwella lles corfforol a meddyliol. Mae’n cael ei gydnabod yn dda y gall mynediad at y celfyddydau, ym mhob ffurf, gael effaith gadarnhaol iawn ar les pobl, boed hyn yn ymwneud â hapusrwydd personol neu ddatblygu rhyngweithiadau cymdeithasol. Rydym wedi bod wrth ein bodd â phoblogrwydd cynllun Noson Allan CCC, a’i gyrhaeddiad ar draws cymunedau Sir Ddinbych.”
Yr hyrwyddwyr mwyaf gweithgar yw Theatr Twm o’r Nant a Menter Iaith Dinbych ac rydym wedi cefnogi amrywiaeth o dalentau fel y delynores enwog Elinor Bennett a berfformiodd yn Ninbych a’r canwr adnabyddus Bryn Fon a ganodd yng Nghaffi Llanbenwch. Mae’r cynllun hefyd wedi cefnogi caffi Adrodd Straeon Llangollen yn ogystal â Marchnad Crefftwyr Rhuthun sydd wedi gallu cynnig amrywiaeth o berfformiadau byw o ansawdd uchel i’w cymuned leol.
“Mae tystiolaeth yn awgrymu y gall ymgysylltu â’r celfyddydau wella lles corfforol a meddyliol person. Mae manteision gweithgareddau celfyddydol yn cael eu gweld y tu hwnt i leoliadau traddodiadol, ac mae eu rôl wrth gefnogi cymunedau ac unigolion a fyddai fel arall wedi’u heithrio yn cael ei chydnabod yn gynyddol.’’ Adroddiad Conffederasiwn GIG Cymru ar y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant – Mai 2018