Mae pum bwyty a chaffi HSDd wedi cael y sgôr uchaf am eu hylendid a’u safonau.

Mae Bwyty a Bar 1891 ym Mhafiliwn y Rhyl, Y Bwyty Coedwig Law yn SC2 y Rhyl, Caffi R yn Rhuthun, Cwt Y Traeth yn Nova Prestatyn a Chaffi 21 yng Nghanolfan Fowlio Gogledd Cymru i gyd wedi cael eu gwobrwyo gyda 5 allan o 5 seren.

Daw’r wobrau ar ôl ymweliadau dirybudd gan Asiantaeth Iechyd yr Amgylchedd Iechyd sy’n archwilio’r ceginau; paratoi a choginio bwyd; systemau hylendid bwyd a chofnodion cysylltiedig.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd: “Rydym wedi plesio’n arw ein bod wedi derbyn sgôr pum seren ar draws portffolio bwyty a lletygarwch y cwmni, sy’n cynnwys – Bwyty a Bar 1891 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl, SC2 y Rhyl; Cwt Traeth Nova; a Chaffi R yn Rhuthun. Yn ogystal â mwynhau ein prydau bwyd bendigedig, gall ein gwesteion fod yn gwbl hyderus yn y safonau hylendid bwyd uchel sy’n rhan o’u paratoi. Nid yw’n syndod i ni gan ein bod yn gwybod faint o ymdrech y mae ein staff yn ei roi i’w gwaith, a’r pwyslais y maent yn ei roi ar gydymffurfio. Rydym yn buddsoddi fel cwmni yn ein seilwaith, hyfforddiant staff a systemau i fodloni’r holl safonau gofynnol, ond mae hyn yn wir yn dyst i’r holl waith caled y mae ein staff yn ei wneud yn eu rolau, i gynnal safonau HSDd ar draws ein holl fwytai a chaffis. ”