Mae HSDd yn dod â noson allan i’ch ymarferion gyda lansiad dosbarthiadau clubbercise newydd yn Ninbych a Llangollen.

Mae’r dosbarthiadau ffitrwydd newydd cyffrous hyn yn cael eu lansio yn dilyn cyflwyniad llwyddiannus o Clubbercise yn Hamdden Rhuthun a Nova Prestatyn a lansiwyd y llynedd.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDd: “Mae’n bleser i ni allu rhoi’r profiad premiwm hwn i’n haelodau, ac mewn gwir arddull Hamdden Sir Ddinbych rydym bellach yn rhedeg Clubbercise mewn pedwar lleoliad ar draws Sir Ddinbych. Mae’r ffaith fod brand rhyngwladol fel Clubbercise yn ymddiried ynom yn anrhydedd wych ac ni allwn aros i’n haelodau brofi’r dosbarthiadau hyn, maent yn wirioneddol yn un o fath!”

Gyda’r is-bennawd enwog ‘Dod â noson allan i’ch ymarfer corff’, mae Clubbercise yn gymysgedd perffaith o hwyl a ffitrwydd. Mae’r ymarfer corff llawn yn addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd, wedi’i osod mewn ystafell dywyll gyda goleuadau disgo a ffyn disglair Clubbercise, mae pob rhaglen ymarfer wedi’i gosod i anthemau clwb a chlasuron y 90au.

Mae dosbarthiadau yn cychwyn yn Llangollen ar 17eg Chwefror a Dinbych 20fed Chwefror – gall aelodau archebu wythnos ymlaen llaw ar yr ap HSDd. Mae dosbarthiadau yn Rhuthun a Nova ar gael i’w harchebu nawr!

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://denbighshireleisure.co.uk/dllclubbercise/