Mae Rhod Gilbert yn ôl ac yn dod â’i sioe newydd i Bafiliwn y Rhyl flwyddyn nesaf
Byddwch yn barod am noson o chwerthin lond eich bol wrth i’r digrifwr o fri Rhod Gilbert gyhoeddi ei daith newydd sbon, ‘Rhod Gilbert & the Giant Grapefruit’.
Mae Rhod Gilbert, sy’n enw cyfarwydd iawn ym myd comedi, yn enwog am ei ffraethineb chwim a’i hiwmor cyfarwydd, ac mae o’n camu’n ôl ar y llwyfan ar ôl seibiant yn dilyn triniaeth ar gyfer cancr y gwddf a’r pen.
Mae’r digrifwr hoffus yn ôl gyda sioe newydd sbon danlli grai sy’n siŵr o weld y gynulleidfa yn g’lana’ chwerthin. Bydd Rhod yn camu ar lwyfan Theatr Pafiliwn y Rhyl nos Fercher 20 Tachwedd 2024 am 8pm.
Meddai Rhod Gilbert am ei daith newydd: “Ar ôl y flwyddyn rydw i wedi’i chael, mae hi’n braf bod yn fyw a theithio unwaith eto. Rydw i’n edrych ymlaen at gael mynd yn ôl ar y llwyfan a siarad am droeon yr yrfa personol iawn, iawn. Pan fydd bywyd yn rhoi lemons i chi, mae’n rhaid i chi eu gwasgu tan mae’r sudd comedi yn llifo, felly byddwch yn barod am s*** tywyll a doniol.”
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych Cyf: “Rydym ni’n falch iawn o weld Rhod yn ôl yn gwneud yr hyn mae o’n ei wneud orau ac rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ei groesawu’n ôl i Theatr Pafiliwn y Rhyl ar ôl ei sioe lwyddiannus ddiwethaf yma. Mae gennym ni lein-yp gwych o ddigrifwyr ar raglen Theatr y Pafiliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, yn cynnwys Adam Rowe, Fascinating Aida, Tom Allen a Paul Smith i enwi ond rhai. Mae cael ein dewis fel lleoliad sioeau teithiol digrifwyr o fri fel Rhod Gilbert yn helpu i roi’r Rhyl ar y map unwaith eto.”
Mae’r tocynnau yn £35 yr un (gyda ffi archebu ar ben hynny) ac mae’n rhaid i chi fod yn 16 oed neu’n hŷn i ddod i weld y sioe. Mae’r tocynnau blaenoriaeth yn mynd ar werth am 10am dydd Mercher 27 Medi. Bydd tanysgrifwyr e-bost Theatr Pafiliwn y Rhyl, sydd wedi tanysgrifio cyn 9am dydd Llun 25 Medi, yn cael dolen arbennig sydd yn eu galluogi i brynu’r tocynnau gorau cyn iddynt fynd ar werth i bawb arall. Bydd y tocynnau cyffredinol yn mynd ar werth am 10am dydd Gwener 29 Medi, a gellir eu prynu drwy wefan Theatr y Pafiliwn neu yn y swyddfa docynnau drwy ffonio 01745 330000.