Mae tîm Celfyddydau Cymunedol Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) wedi bod yn dathlu llwyddiant ei raglen gelfyddydol o fewn cymunedau lleol.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl â chymorth anfeddygol sy’n helpu i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar iechyd, ond na ellir eu trin gan feddygon neu feddyginiaeth yn unig, fel unigrwydd, arwahanrwydd neu straen. Mae Diwrnod Presgripsiynu Cymdeithasol a gynhelir ddydd Mercher 19 Mawrth yn ddathliad blynyddol o grwpiau a sefydliadau cymunedol lleol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl.

Llwyddodd DLL i gael grant Cronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU i greu prosiectau llesiant creadigol a rhyng-genhedlaeth newydd ar draws y sir, a chyflawnodd y tîm Celfyddydau Cymunedol raglen o weithgareddau a gynlluniwyd i rymuso pobl i reoli problemau iechyd presennol a helpu pobl i gysylltu a thyfu mewn hyder. Cymerodd dros 2,000 o unigolion ran mewn sesiynau amrywiol cerddoriaeth, dawns, celf a chreadigol rhwng Gorffennaf 2023 a Thachwedd 2024. Roedd gan rai sesiynau amcan clir i ddefnyddio’r celfyddydau i gefnogi pobl ag  anghenion iechyd a lles amrywiol megis dementia, gorbryder, straen neu iselder. Roedd canlyniadau unigolion a fynychodd weithgareddau tymor hwy yn dangos bod 79% yn teimlo’n llai unig. Roedd gan 83% newid cadarnhaol yn eu lles meddyliol ac roedd gan 79% well hunan-barch.

Roedd y rhaglen yn cynnwys Ymgolli mewn Celf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia, ynghyd â chyngherddau a sesiynau cerddoriaeth yn y gymuned, cartrefi gofal a chyfleusterau gofal ychwanegol mewn partneriaeth â Chanolfan Gerdd William Mathias. Bu’r tîm hefyd yn cydlynu prosiectau rhwng cenedlaethau gyda disgyblion ysgol ac ysbytai cymunedol a nifer o brosiectau creadigol yn cefnogi iechyd meddwl a lles pobl gyda phartneriaid fel Kim Inspire, Mind Dyffryn Clwyd a Chanolfan Ni yng Nghorwen. Cynhaliodd tîm DLL 38 o brosiectau celf gwahanol, gan gyflogi 34 o artistiaid llawrydd a chyfrannu mwy na £50,000 i’r economi greadigol leol. Mae adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Social Value Cymru wedi dangos bod pob £1 a fuddsoddir yn darparu mwy na 5x y swm mewn gwerth cymdeithasol i unigolion sy’n cymryd rhan mewn prosiectau celfyddydau DLL.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL ‘Mae ein tîm Celfyddydau Cymunedol wedi gweithio’n eithriadol o galed i gyflwyno eu rhaglen o fewn ein cymunedau. Mae rhagnodi cymdeithasol yn elfen hynod bwysig o fynd i’r afael â materion difrifol sy’n effeithio ar iechyd, a gall ein rhaglen ddangos yr effeithiau cadarnhaol y mae wedi’u cael ar iechyd a lles pobl. Yn ogystal â’r manteision hyn, mae’r rhaglen hefyd wedi cyfrannu’n llwyddiannus at yr economi greadigol leol, rhywbeth y gallwn oll fod yn hynod falch ohono.”