Dathlu Cerddoriaeth, Goleuadau a Hud yn ystod Penwythnos Nadoligaidd y Rhyl!
Mae’r Rhyl yn paratoi ar gyfer penwythnos mawreddog o ddathliadau i groesawu tymor yr Ŵyl fis nesaf. Bydd goleuadau Nadolig y Rhyl yn cael eu troi ymlaen ddydd Sadwrn 25 Tachwedd ac mae cyngerdd Pop Nadolig wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sul 26 Tachwedd.