Parc Dŵr SC2 y Rhyl i ailagor y mis nesaf gyda gostyngiadau teyrngarwch lleol i drigolion a man chwarae newydd am ddim
Mae Hamdden Sir Ddinbych (DLL) yn falch i gyhoeddi y bydd eu parc dŵr hynod boblogaidd, SC2 y Rhyl, yn ailagor y mis nesaf gydag atyniadau a gostyngiadau newydd i bobl leol.
Bydd y parc dŵr dan do yn ailagor ar 5ed o Orffennaf, ac fel y disgwylir, yn null DLL go iawn, mae SC2 yn ôl yn fwy ac yn well nag erioed. Mae strwythur chwarae antur newydd sbon AM DDIM yn y Bwyty Coedwig Law wedi’i adeiladu ar gyfer ciniawyr, gyda bwydlen newydd flasus, gan gynnwys amrywiaeth wych o hufen iâ gelato gan ein partner lleol newydd, Red Boat.
Yn anffodus, oherwydd difrod storm i’r to yn SC2, mae’r parc dŵr wedi bod ar gau ers dros flwyddyn. Roedd angen lot o waith atgyweirio, ond mae’r gorffeniadau olaf bellach yn cael eu cadarnhau ac mae tîm DLL wedi gwneud popeth posibl i gael y parc dŵr yn ôl ar agor yn barod ar gyfer dechrau mis Gorffennaf.
Mae eich holl sleidiau yn ôl, yr Anaconda, Boomerang a Speedster i’r rhai sy’n chwilio am gyffro, yn ogystal â’r Piranha Play i’r rhai bach. Wrth gwrs, bydd arena Ninja TAG a’r Chwarae Meddal â thema dinosoriaid hefyd ar agor ochr yn ochr â chaffi Chwarae Antur gyda Chosta yn cael ei weini ledled y safle.
Bydd ein harchebion ar-lein ar gyfer y parc dŵr dan do yn ailagor o heddiw, dydd Mawrth 10fed Mehefin, a bydd gwesteion yn gallu ei fwynhau o’r 5ed o Orffennaf. Bydd gennym hefyd ostyngiad teyrngarwch lleol gwych ar gael i drigolion lleol ei ddefnyddio ar ôl 4pm bob penwythnos a thrwy gydol gwyliau haf yr ysgol.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Mae pawb yn DLL yn gyffrous iawn i weld ein prif atyniad yn ailagor. Roedd y difrod i’r to ar raddfa fawr, ond ni fyddem byth yn gadael i hynny ein digalonni. Mae SC2 yn uchafbwynt ar fap y Rhyl a’n blaenoriaeth oedd ailagor yr atyniad cyn gynted â phosib. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw SC2 i’r Rhyl, ac roeddem yn benderfynol o ddod yn ôl yn fwy ac yn well nag o’r blaen. Fel un o gyflogwyr mwyaf Sir Ddinbych, rydym yn falch o fod wedi cyflogi 30 o bobl eraill yn SC2 yn ddiweddar, a byddwn yn ailagor gyda thîm cyffrous, sydd methu aros i roi’r profiadau cwsmeriaid gorau i bawb. Eleni, rydym am roi haf o hwyl ac atgofion hapus i ymwelwyr a thrigolion yn SC2, ac allwn ni ddim aros i’ch gweld chi gyd ym mis Gorffennaf, gyda gostyngiadau unigryw i bobl leol fel diolch am eu cefnogaeth tra roeddem ar gau!”
Am ragor o wybodaeth am SC2 ewch i SC2rhyl.co.uk a chadwch lygad ar dudalennau cymdeithasol SC2 am fwy o gyhoeddiadau cyffrous.