Parc dŵr SC2 yn recriwtio 40 o swyddi newydd cyn ailagor yn yr haf
Mae Hamdden Sir Ddinbych Cyf (DLL) yn falch iawn o gyhoeddi diwrnod recriwtio yn SC2 yn y Rhyl, gyda hyd at 40 o swyddi newydd yn cael eu hysbysebu cyn i’r parc dŵr ailagor ar ddechrau’r haf.
Bydd hyd at 40 o swyddi newydd yn cael eu creu a’u hysbysebu, gyda diwrnod recriwtio cychwynnol wedi’i gynllunio ar gyfer dydd Iau, 13eg Mawrth yn SC2 i bobl gofrestru eu diddordeb a siarad â’r tîm.
Oherwydd maint y difrod a effeithiodd to SC2, roedd rhaid i’r parc dŵr gau am dros flwyddyn. Fodd bynnag, heddiw 4ydd Mawrth, mae DLL wedi cyhoeddi bod parc dŵr SC2 ar y trywydd iawn i ailagor ddechrau’r haf, gyda llu o swyddi a chyfleoedd i’r gymuned leol.
Bydd swyddi gwag SC2 yn cynnwys achubwyr bywyd, staff y gegin a’r bwyty, Tag actif a gwasanaethau gwesteion. Bydd DLL hefyd yn defnyddio’r cyfle i hyrwyddo swyddi gwag eraill sydd ganddyn nhw. Mae DLL wedi dod yn un o brif gyflogwyr y Sir a bydd ail-agor SC2 yn ychwanegu llawer mwy o gyfleoedd cyflogaeth i’r economi leol.
Mae’r tîm bellach yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod SC2 yn gwneud y dychweliad yn fwy ac yn well nag erioed, gyda datblygiadau cyffrous yn digwydd ar y Pad Sblasio i gynnwys mwy o brofiadau hwyliog, yn ogystal â rhai syrpreisys eraill, gan gynnwys atyniadau newydd yn y Bwyty Coedwig Law.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Roedd pawb yn DLL wedi siomi i dreulio’r flwyddyn ddiwethaf heb ein parc dŵr arbennig. Felly, fel y gallwch ddychmygu, rydym yn hynod gyffrous am y cynlluniau i ail-agor. Rydym yn gweithio ar raglen dymhorol newydd a fydd yn cynnwys llawer o gynigion am ddim yn ogystal â chynigion cost isel i drigolion lleol groesawu pawb yn ôl. SC2 yw’r diemwnt yng nghoron y Rhyl ac ni allwn aros i greu atgofion gyda phreswylwyr ac ymwelwyr eto! Rydym wrth ein bodd yn dod â mwy o gyfleoedd cyflogaeth i’r gymuned; bron â dyblu ein gweithlu ers i’r cwmni gael ei eni yn ôl yn 2020; ac rydym wedi ymrwymo i wneud hwn yr haf gorau i ni ei gael yn SC2!
“Hoffwn yn bersonol ddiolch i bawb sydd wedi bod yn ein cefnogi tra bod y gwaith hwn wedi bod yn mynd yn ei flaen, mae’r gweithlu cyfan wedi gwerthfawrogi eich holl negeseuon o gefnogaeth a nawr, cyffro ar gyfer ailagor! Mewn arddull DLL go iawn, ni fyddwn yn gadael i’r rhwystr hon ein dal yn ôl ac rydym yn gyffrous i ddod yn ôl yn fwy ac yn well nag erioed, gyda rhai syrpreisys cyffrous i’w cyhoeddi’n fuan!”
Mae parc dŵr dan do SC2 ar y trywydd iawn i ailagor ar ddechrau’r haf ac mae’r tîm yn gweithio’n ddiflino i ailagor y Pad Sblasio awyr agored mewn pryd ar gyfer y gwyliau haf.
Mae rhywbeth at ddant pawb ym mharc dŵr SC2, gyda’r Anaconda, Bwmerang a sleidiau cyflymdra, yn ogystal â’r ardal Piranha gydag elfennau chwarae rhyngweithiol i roi hyder dŵr i’r rhai bach.
Bydd arena Ninja TAG a Chwarae Meddal Antur dinosoriaid yn parhau i weithredu fel arfer, gan gynnwys ein partïon pen-blwydd poblogaidd a’n caffi Chwarae Antur gyda Chosta yn cael ei weini ledled y safle.
Mae diwrnod recriwtio SC2 ar ddydd Iau, 13eg Mawrth ac anogir unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd hamdden a/neu yn SC2 y Rhyl i e-bostio pobl@hamddensirddinbych.co.uk i archebu eu lle i ddod draw i ddarganfod mwy ar y diwrnod, gyda sesiynau yn y bore a’r prynhawn ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i sc2rhyl.co.uk