Partneriaeth newydd rhwng DLL a chwmni hufen iâ artisan o Ynys Môn, Red Boat, i blesio dannedd melys yn Sir Ddinbych
Mae’n bleser gan DLL ddechrau partneriaeth newydd sbon gyda chwmni hufen iâ artisan o Ynys Môn, Red Boat, a fydd yn dod ag amrywiaeth o flasau hufen iâ i atyniadau DLL dros yr haf eleni.
Mae’r cwmni o ogledd Cymru, Red Boat, yn cynnig cynnyrch gelato artisan amrywiol o ansawdd uchel a nifer o flasau hyfryd ac unigryw, a bydd modd i chi fwynhau eich hoff hufen iâ Red Boat yn atyniadau arfordirol poblogaidd HSDd.
P’un a ydych yn mwynhau pryd o fwyd moethus ym mwyty DLL, 1891, neu’n cael cinio sydyn yn yr haul yng Nghwt y Traeth, bydd blasau amrywiol hufen iâ Red Boat ar gael i chi eu harbrofi – yr ychwanegiad perffaith i fwydlenni blasus HSDd. Bydd hufen iâ Red Boat ar fwydlen yr haf eleni yn SC2 y Rhyl, Nova Prestatyn, Cwt y Traeth, Bar a Bwyty 1891, a Theatr Pafiliwn y Rhyl.
Meddai Jamie Groves, Cyfarwyddwr Rheoli HSDd “Mae’n bleser gan HSDd weithio gyda chwmni arall o ogledd Cymru, ac edrychwn ymlaen yn arw at rannu cynnyrch Red Boat gyda’n cwsmeriaid. Yn yr un modd â HSDd, dim ond y cynhwysion gorau fydd Red Boat yn eu defnyddio, maent yn angerddol am eu cynnyrch ac yn awyddus i sicrhau’r profiad gorau posibl i gwsmeriaid DLL.
Gydag amrywiaeth o flasau ar gael, gan gynnwys Tarten Bakewell, Cacen Gaws Cyrens Duon a Mefus a Hufen, bydd y bartneriaeth newydd hon rhwng DLL a Red Boat yn siŵr o gynnig rhywbeth i blesio pawb yr haf hwn. Mae digon o ddewis ar gyfer y rhai ag anghenion dietegol hefyd, sy’n golygu nad oes neb yn cael eu gadael allan.
Dywedodd Tony Green, Sefydlydd Red Boat, ‘Criw o gyn-gogyddion creadigol ydym ni, ac rydym yn mwynhau gweithio gydag eraill yn y sector lletygarwch i greu blasau hufen iâ blasus ar gyfer bwytai ac atyniadau ymwelwyr. Cwblheais fy hyfforddiant ym Mhrifysgol Gelato Carpigiani, Bologna, yr Eidal. Rwyf wedi gweithio gyda rhai o’r cogyddion gelato gorau yn y byd, sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr i mi. Gobeithiaf y bydd yr angerdd a’r creadigrwydd hwn gan Red Boat yn allweddol i’n perthynas waith dda a chyffrous gyda HSDd a’i atyniadau gwych i ymwelwyr, drwy gynnig profiad blasu gelato arbennig i’r ymwelwyr i ategu at eu profiad gwych â DLL”.
Am fwy o wybodaeth, ymwelwch â www.hamddensirddinbych.co.uk.
