Mae gan DLL rywbeth i bawb y Pasg hwn, gyda llu o ddigwyddiadau ar draws eu bwytai a’u hatyniadau, gan ei wneud yn strafagansa gwyliau Pasg ar draws Sir Ddinbych.

Mae digwyddiadau a hwyl wedi’u cynllunio ar draws Bwyty 1891, Theatr Pafiliwn y Rhyl, Cwt y Traeth, Cymunedau Bywiog, SC2, Hamdden Llangollen, Corwen a Ninja TAG Rhyl, gan sicrhau bod rhywbeth i bawb ei fwynhau dros y penwythnos.

Mae gan SC2 gynlluniau  cyffrous y Pasg hwn gyda chystadleuaeth ‘Rasio’r Bwni Pasg’ yn Ninja TAG, yn annog pobl i gyrraedd brig y sgorfwrdd, a ‘Helfa wyau’ yn Chwarae Antur gyda helfa wyau deinosoriaid yn rhoi cyfle i blant ennill yr wyau Pasg. Gyda lleoedd yn llenwi’n gyflym, anogir teuluoedd i archebu ar-lein yn gynnar i osgoi cael eu siomi.

Mae Cymunedau Bywiog DLL yn hynod o brysur dros wyliau ysgol y Pasg, gan ddod â’u ‘Diwrnodau Hwyl i’r Teulu’ hynod boblogaidd a rhad ac am ddim yn ôl, gyda llu o weithgareddau wedi’u cynllunio ar draws y sir yn Llangollen, Corwen, Llanelwy, Rhuthun a’r Rhyl.

Mae Theatr Pafiliwn y Rhyl yn croesawu cast serennog y pantomeim Rapunzel ar y llwyfan, gan gynnwys seren Eastenders ac I’m a Celebrity, Dean Gaffney, Joanne Clifton o Strictly a Jamie a Chuck a ddaeth yn ail gyda Britain’s Got Talent. Bydd y cynhyrchiad difyr yn cael ei berfformio 3 gwaith dros benwythnos y Pasg, ddwywaith ar ddydd Sadwrn 8fed am 2pm a 6pm, ac unwaith ar ddydd Sul 9fed am 2pm. Gyda chast cryf, mae tîm y Swyddfa Docynnau yn cynghori teuluoedd i archebu ymlaen llaw ar gyfer y seddi gorau.

Mae Cwt y Traeth, Nova Prestatyn hefyd yn cynnal diwrnod hwyl i’r plant, gyda gorsaf paentio gwynebau, , diddanwr plant a llawer o ddanteithion Pasg yn y ffatri hufen iâ!

Mae Bwyty a Bar 1891 yn edrych ymlaen at groesawu Daniel Winters ar ddydd Sadwrn 8fed Ebrill a fydd yn talu teyrnged i Boy George, yn perfformio ei holl glasuron i gynulleidfa Bwyty 1891. Gall cwsmeriaid sydd yn dod am bryd o fwyd i 1891 fwynhau’r perfformiadau cerddoriaeth fyw am ddim, neu gall y rhai sydd eisiau mwynhau diodydd yn unig fynychu’r perfformiad byw am £5 y tocyn.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Rydym yn gyffrous iawn i allu cynnal cymaint o ddigwyddiadau ar draws safleoedd DLL y Pasg hwn, gyda gweithgareddau’n digwydd o Langollen i’r Rhyl, mae rhywbeth i gadw pawb yn brysur dros benwythnos y Pasg a gwyliau’r ysgol. Dim ond dechrau yw hyn ar ein cynllun digwyddiadau cyffrous ar gyfer y flwyddyn ac ni allwn aros i ddathlu gyda chi fis nesaf!”

I gael rhagor o wybodaeth am Benwythnos Pasg DLL, edrychwch ar dudalen Facebook DLL.