Mae DLL yn dod â phrofiad bocsio ‘cyntaf yng Nghymru’ arall i Glwb y Rhyl, gyda lansiad profiad ffitrwydd arloesol wedi’i ysbrydoli gan focsio.

Fel rhan o’r gwaith adnewyddu gwerth £1 miliwn yng Nghlwb Y Rhyl, y cam nesaf yw cyflwyno’r brand ffitrwydd newydd a phoblogaidd, BOX12, i’r clwb ar 31 Mawrth, gan roi gofod ymarfer corff newydd sbon a chwbl unigryw i aelodau.

Mae Box 12, un o’r tueddiadau ffitrwydd mwyaf yn 2025 yn ôl y Sunday Times, yn brofiad ffitrwydd gwbl wahanol.  Mae’r gofod ymarfer corff deinamig hwn, sydd wedi’i ysbrydoli gan focsio, yn cyfuno gwyddoniaeth, technoleg, a bocsio i ddarparu profiad ymarfer corff o’r radd flaenaf a fydd yn trawsnewid sesiynau ymarfer corff aelodau.

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL “Mae gan DLL enw da am gyflwyno datrysiadau ffitrwydd arloesol yn ei gyfleusterau, ac nid yw BOX12 yn eithriad.  Mae aelodau Clwb Y Rhyl eisoes yn mwynhau ein Stiwdio 360 arloesol, y cyntaf o’i math yng Nghymru.  Rydym yn falch iawn o gyflwyno rhywbeth newydd unwaith eto – BOX12.  Bydd aelodau wrth eu boddau. Mae’n ffordd hwyliog o wella ffitrwydd cardiofasgwlaidd a chryfder cyffredinol ac yn weithgaredd cymdeithasol gwych.”

Mae BOX12 yn addas i bawb, nid dim ond bocswyr yn unig, ac mae’n cynnig ymarfer corff dwys a chynhwysol wedi’i lunio i gynnwys aelodau o bob lefel ffitrwydd.  Mae’r gofodau ymarfer corff hollol awtomatig, gyda sgriniau hyfforddi digidol, yn cynnig profiad ar alw heb unrhyw angen am staff.

Wedi’i sefydlu yn 2019, ganed BOX12 o weledigaeth a rennir rhwng dau gyn-filwr o’r diwydiant ffitrwydd, Jamie Cartwright a Jon Eade, ac mae heddiw mewn dros 75 o leoliadau ar draws sawl gwlad, gan ddarparu egni ‘prif ddigwyddiad’ i ​​gampfeydd a chlybiau ffitrwydd yn fyd-eang.

Dywedodd Jon Eade, Cyd-sylfaenydd BOX12 “Rydym yn hynod gyffrous i weithio mewn partneriaeth â DLL er mwyn dod â’r Ateb Mewn-Clwb BOX12 cyntaf i Gymru! Mae gweithio gyda’r tîm yng Nghlwb y Rhyl er mwyn dod â’n Prif Ddigwyddiad Egni i’r llawr ymarfer yn eu campfa yn golygu y gallwn gynnig y gallu i aelodau gael mynediad at raglenni Bocsio ar gyfer Ffitrwydd o safon fyd-eang ar eu hamserlen, pryd bynnag y maent am hyfforddi! Mae BOX12 yn ymarfer Bocsio a Swyddogaethol 12-rownd, 36-munud a fydd yn eich herio a’ch ysgogi – ac mae hefyd yn llawer o hwyl. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw troi fyny, plymio fewn i Rownd Un, a gadael i sgriniau hyfforddi rhithwir BOX12 wneud y gweddill. Allwn ni ddim aros i’ch gweld chi yno!”

Yn dilyn uwchraddiad arbennig DLL, mae aelodau Clwb y Rhyl eisoes wedi gweld nifer o ychwanegiadau cyffrous yn 2025. Y lansiad cyntaf oedd y gampfa cryfder hynod boblogaidd ym mis Ionawr, a dilynwyd hyn yn gyflym gydag ystafell cardio newydd sbon, ac yn fwyaf diweddar Stiwdio X, gofod hyfforddi HIIT a ddyluniwyd yn arbennig. Nawr gallant edrych ymlaen at ‘gyntaf eto yng Nghymru’ pan fydd BOX12 yn lansio ddiwedd y mis.

Am fwy o wybodaeth, ewch i denbighshireleisure.co.uk.