Profiad ffitrwydd newydd o’r radd flaenaf yn dod i Hamdden Rhuthun fis nesaf
Mae HSDdCyf yn dod â phrofiad clwb unigryw i Ruthun fis nesaf gyda lansiad ‘Clwb Rhuthun’.
Mewn gwir arddull HSDdCyf, bydd y datblygiad newydd yn gweld offer ffitrwydd newydd sbon, lolfa aelodau ac offer newydd gyda’r dechnoleg ddiweddaraf.
Bydd y gwaith yn digwydd fesul cam, gyda’r cam cyntaf o’r datblygiad yn canolbwyntio ar yr ystafell ffitrwydd, a fydd yn cael ei thrawsnewid yn frand clwb HSDdCyf a gyda chynllun llawr newydd cyffrous i sicrhau bod mynychwyr y gampfa yn cael y profiad gorau ar gyfer eu sesiynau ymarfer corff.
Bydd offer newydd sbon yn cael eu gosod yn cynnwys ystod gardio Excite Live ddiweddaraf Technogym, ystod eang o beiriannau Cryfder Pur, gan gynnwys pwysau rhydd a raciau Olympaidd, i gyd wedi’u cefnogi gan system ‘Wellness’ Technogym. Bydd gorsaf iechyd Tanita newydd hefyd yn cael ei gosod, gan roi mynediad i aelodau at lu o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer olrhain eu cynnydd a monitro eu nodau ffitrwydd.
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr HSDdCyf: “Rydym wastad yn chwilio am gyfleoedd i wella profiad cwsmeriaid yma yn HSDdCyf, ac yn dilyn ymlaen o lwyddiant ysgubol Clwb Nova, X20 Llanelwy a Chlwb Dinbych, rydym nawr yn ymestyn yr arddull hwn i Ruthun. Gall aelodau Clwb Rhuthun edrych ymlaen at brofiad cwsmer rhagorol ac awyrgylch clwb unigryw heb ei ail yn yr ardal.
“Ni allwn aros i rannu hwn gyda chi i gyd y mis nesaf, gyda phenwythnos y 4ydd a 5ed o Dachwedd yn gyfle cyntaf i bawb roi cynnig ar yr ystafell ffitrwydd newydd cyn ein hagoriad swyddogol yr wythnos wedyn. Rydym yn falch iawn o ddod â rhywbeth newydd a chyffrous i’n haelodau yn Rhuthun. Gyda’r cam cyntaf nawr ar waith, rydym yn gobeithio cyhoeddi manylion cam 2 y rhaglen yn fuan, a fydd yn cynnwys ardal luniaeth ‘ail-lenwi’ newydd. Mae HSDdCyf yn eithriadol o falch o’i hanes o ddod â phrofiadau Clwb unigryw i’w gwsmeriaid, a Chlwb Rhuthun yw cam nesaf yr ymrwymiad hwn ledled y sir.”
Mae’r datblygiad newydd cyffrous hwn yn enghraifft o ymrwymiad parhaus HSDdCyf i fuddsoddi mewn cyfleusterau hamdden.
Tra bod y datblygiadau yma ar waith, mae gan aelodau Rhuthun gyfle delfrydol i roi cynnig ar brofiad ffitrwydd newydd yn un o gyfleusterau eraill HSDdCyf. Mae aelodaeth HSDdCyf yn cynnwys y defnydd o gyfleusterau unrhyw safle HSDdCyf, gan gynnwys X20 yn Llanelwy, neu Glwb Dinbych, (sef y model ar gyfer Clwb Rhuthun). Mae gan Ganolfan Hamdden Huw Jones yng Nghorwen hefyd gyfleusterau gwych ar gyfer ymarfer cyflawn o fewn 20 munud mewn car o Ruthun. Mae dosbarthiadau ychwanegol wedi’u hychwanegu at yr amserlen i sicrhau bod aelodau ffitrwydd dal yn gallu cael mynediad i’r rhaglen arbennig yn Hamdden Rhuthun.
Bydd y pwll nofio a’r stiwdio yn Rhuthun yn parhau i fod ar agor fel arfer trwy gydol y gwaith sy’n cael ei wneud, gan gynnwys amserlen y dosbarthiadau ffitrwydd yn parhau fel y cynlluniwyd, gyda’r holl ddosbarthiadau i’w harchebu trwy Ap Hamdden Sir Ddinbych.