Profiad ffitrwydd rhyngweithiol 180 newydd yn dod i Glwb Dinbych y gwanwyn hwn
Mae stiwdio ffitrwydd ryngweithiol newydd sbon yn dod i Ddinbych i roi profiad digidol 180 gradd i aelodau ffitrwydd, sy’n trawsnewid y rhaglen ddosbarthiadau ac yn darparu stiwdio ymarfer unigryw o’r radd flaenaf.
Yn dilyn llwyddiant Stiwdio 360 yng Nghlwb y Rhyl, Mae DLL a Future Studios yn cydweithio eto i ddod â stiwdio 180 gradd ryngweithiol i Glwb Dinbych y mis nesaf. Unwaith eto mae DLL yn mynd yn groes i’r duedd genedlaethol wrth greu un o’r clybiau ffitrwydd mwyaf arloesol a chyffrous yn y wlad.
Dyma feicio dan do fel na welwyd o’r blaen, yn cynnwys wal ryngweithiol a beiciau ac offer Technogym o’r radd flaenaf.
Meddai Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr DLL: “Ein nod yw darparu un o’r profiadau ffitrwydd mwyaf arloesol a chyffrous yng Nghymru. Drwy gyflwyno Stiwdio 180 a llwyddiant Stiwdio 360 yng Nghlwb y Rhyl, rydym wedi ymrwymo i ddod â’r dechnoleg fwyaf arloesol i bobl Sir Ddinbych. Mae DLL yn parhau i arwain y ffordd yn y diwydiant ffitrwydd ac yn mynd yn groes i’r duedd genedlaethol o leihau maint – rydym yn tyfu ac yn buddsoddi, gan sicrhau bod ein haelodau’n cael y profiad gorau posibl. Os oeddech chi’n meddwl bod beicio dan do yn gyffrous, daliwch yn dynn oherwydd mae’r profiad ar fin cyrraedd lefel hollol newydd.”
Nid yn unig y bydd y buddsoddiad yn gwella’r arlwy iechyd a ffitrwydd yng Nghlwb Dinbych, ond bydd yn galluogi i DLL ddarparu profiadau sy’n apelio at bobl o bob oed a demograffeg er mwyn helpu i annog mwy o aelodau o’r gymuned i gymryd rhan mewn ymarfer corff.
Fe’i cyflwynir drwy Fframwaith Hamdden y DU, a reolir gan Hamdden Sir Ddinbych ac Alliance Leisure, bydd yr adnodd iechyd a lles arloesol yn cynnig profiadau cynhwysol, dwys i ymgysylltu ac ysbrydoli grwpiau ymarfer corff presennol a denu cynulleidfaoedd newydd.
Mae DLL wedi gweithio gyda’r asiantaeth greadigol ‘Flareform’ i ail-bwrpasu stiwdio ymarfer yng Nghlwb y Rhyl yn Sir Ddinbych. Y nod yw creu amgylchedd ymarfer corff unigryw sy’n defnyddio tafluniad 360 gradd ar holl waliau’r ystafell i greu golygfeydd animeiddiedig di-dor sy’n trawsnewid gyda phob dosbarth.
Meddai Joe Robinson, cyd-sylfaenydd Future Studios a chyfarwyddwr creadigol yn Flareform: “Rydym wedi gwirioni cael cydweithio gyda DLL wrth i ni gychwyn ar yr ail brosiect cyffrous hwn i gyflwyno profiadau newydd sbon i’r aelodau. O’r cyswllt cyntaf un, bu’n amlwg ein bod yn gweithio gyda chleient sy’n rhannu ein hangerdd dros arloesi a rhagoriaeth. Mae eu brwdfrydedd tuag at y prosiect hwn yn heintus ac ysbrydoledig, ac mae’n cyd-fynd yn berffaith â’n gweledigaeth greadigol ar gyfer y cynnyrch. Fel gweithredwr hamdden blaengar, mae DLL yn buddsoddi’n barhaus yn ei gyfleusterau ffitrwydd er mwn darparu’r profiadau gorau un i’w gwsmeriaid. Rydym wir yn teimlo’n freintiedig i fod yn rhan o’r bartneriaeth hon ac ni allwn aros i weld y canlyniadau anhygoel y byddwn yn eu cyflawni gyda’n gilydd ar ein hail brosiect.”