Yr wythnos ddiwethaf, lansiwyd profiad ffitrwydd diweddaraf DLL, sef BOX12 – y cyntaf yng Nghymru – yng Nghlwb y Rhyl, a chafwyd adborth gwych gan yr aelodau.

Lansiwyd y datblygiad diweddaraf yng ngwaith adnewyddu £1 miliwn DLL yr wythnos ddiwethaf. Roedd yr adborth iddo yn arbennig.  Mae BOX12 yn ofod ymarfer corff deinamig, sydd wedi’i ysbrydoli gan focsio, ac mae’n cyfuno gwyddoniaeth, technoleg, a bocsio i ddarparu profiad ymarfer corff o’r radd flaenaf.  I gynorthwyo aelodau DLL i gael y gorau o’r gweithgaredd arloesol hwn, trefnodd DLL raglen o sesiynau dosbarthiadau meistr egnïol dan arweiniad hyfforddwr meistr BOX12, a bu’n llwyddiant ysgubol gyda’r aelodau a oedd yn bresennol.  “BOX12 ydy fy hoff weithgaredd yng Nghlwb y Rhyl yn bendant!”

Mae BOX12 yn addas i bawb, nid dim ond bocswyr yn unig, ac mae’n cynnig ymarfer corff dwys a chynhwysol wedi’i lunio i gynnwys aelodau o bob lefel ffitrwydd.  Mae’r gofodau ymarfer corff hollol awtomatig, gyda sgriniau hyfforddi digidol, yn cynnig profiad ar alw – “Rwyf wrth fy modd efo’r ffaith fy mod yn gallu cyrraedd pan ydw i eisiau a chymryd rhan heb orfod archebu lle ymlaen llaw; mae BOX12 yn ffitio i f’amserlen yn berffaith!”

BOX12 yw’r offer diweddaraf i gyrraedd mewn blwyddyn sydd wedi bod yn un gyffrous i aelodau DLL yng Nghlwb y Rhyl.  Y cyntaf i gael ei lansio, ym mis Ionawr, oedd yr ardal bŵer a chryfder newydd, a dilynwyd hynny gan stiwdio cardio a’r ardal HIIT Stiwdio X, ac mae’r cyfan wedi bod yn boblogaidd iawn gyda’r aelodau.

Meddai Cyd-sylfaenydd BOX12, Jon Eade: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at fynd i bartneriaeth gyda Hamdden Sir Ddinbych, er mwyn dod â’r datrysiad mewn clwb BOX12 cyntaf i Gymru! Mae cyfuno manteision ein technoleg newydd – ailddefnyddio mannau nad oedd gynt yn cael eu defnyddio’n effeithiol, tynnu straen cynllunio a chyflwyno rhaglenni oddi ar y gweithredwr – a gweledigaeth flaengar Hamdden Sir Ddinbych, bellach yn dod â ffordd newydd, gyffrous i aelodau fedru hyfforddi – ar amser sy’n eu siwtio nhw.  Mae’r bartneriaeth hon yn sicrhau bod Hamdden Sir Ddinbych a BOX12 ar flaen y gad o ran arloesi ffitrwydd yng Nghymru, ac rydym wrth ein bodd yn gweld aelodau’n ymateb yn gadarnhaol!

Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Ddinbych: “Rydym wrth ein boddau gyda’r ymateb i BOX12.  Mae dod â phrofiad newydd – ‘y cyntaf yng Nghymru’ – i’n haelodau yn hynod gyffrous, ac mae’n ganlyniad llawer o waith cynllunio a gwaith caled gan ein timau.  Rydym bob amser wrth ein boddau’n gweld ymateb ein haelodau, ac rydym yn eithriadol o falch gyda llwyddiant BOX12.  Os oes unrhyw un heb roi cynnig arno eto, fy nghyngor i ydy: ewch amdani! Chewch chi ddim mo’ch siomi.”

Yr offer nesaf i gyrraedd Clwb y Rhyl yw Assist Fit – ystod o offer a gynorthwyir â phŵer, sydd wedi eu cynllunio ar gyfer y rheiny sydd eisiau gwella eu cryfder cyhyrol, cydbwysedd, hyblygrwydd, a ffitrwydd cardiofasgwlaidd, ond gydag ymarfer corff nad yw’n rhy galed.  Cadwch olwg ar gyfryngau cymdeithasol DLL am fwy o fanylion!